Cefnogaeth Genedlaethol eang i ymgyrch tai Cymdeithas yr Iaith

deddf_eiddo.gifDydd Sadwrn yma (Tachwedd 15), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddu enwau'r llu o gynghorau cymuned - o bob rhan o Gymru - sydd wedi datgan cefnogaeth i'w ymgyrch tai trwy arwyddo'r - Datganiad dros ddyfodol cymunedau Cymru.

Bydd hyn yn digwydd yn y rali genedlaethol - Dyfodol i'n Cymunedau - a fydd yn cael ei chynnal am 2pm yn Neuadd Undeb y Myfyrwyr, Caerdydd. Ymhlith y Cymru amlwg hynny a fydd yn cymryd rhan yn y rali, mae'r Athro Hywel Teifi Edwards, Alun Ffred Jones AC a Leanne Wood AC.Dosbarthwyd y Datganiad dros ddyfodol cymunedau Cymru yn eang dros y misoedd diwethaf ac erbyn hyn mae wedi derbyn cefnogaeth gan 130 o gynghorau cymuned. Yn ogystal, mae nifer o fudiadau a chyrff cenedlaethol, megis Merched y Wawr, Undeb Amaethwyr Cymru, UCAC, Yr Eglwys Bresbyteraidd a'r Eglwys Fethodistaidd wedi datgan eu cefnogaeth.Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae sefyllfa bresennol y farchnad dai - lle gwelir prisiau yn codi tu hwnt i gyrraedd pobl leol ar raddfa gyflym iawn - yn bygwth seiliau ein cymunedau, gan gynnwys rhagolygon yr iaith Gymraeg. Dylai Llywodraeth Lafur Rhodri Morgan, sydd yn honni ei bod yn coleddu gwerthoedd sosialaidd, ddeall natur y broblem hon, gan weithredu yn bwrpasol er lles ein cymunedau."Mae'n holl bwysig fod Llywodraeth y Cynulliad, yn gweithredu er lles ein cymunedau Cymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw at rai camau penodol y dylid eu cymryd erbyn cyhoeddi cyllideb derfynol y Cynulliad ar ddiwedd mis Tachwedd. Heriwyd y llywodraeth i wneud hynny trwy sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian a ddarperir i'r Cynllun Cymorth Prynu ac hefyd i'r ddarpariaeth o dai ar rent."Mae'r ffaith bod cymaint o bobl - gan gynnwys 130 o Gynghorau Cymuned - wedi datgan cefnogaeth i'r ymgyrch yn dangos fod cefnogaeth gyffredinol i alwadau Cymdeitrhas yr Iaith. Cyflwynwyd y galwadau hyn i Lywodraeth y Cynulliad dro ar Ùl tro mewn sawl gwahanol ffordd. Yn awr ar drothwy'r gyllideb mae angen pwysau torfol er mwyn sicrhau fod y llywodraeth yn gweithredu.Nodiadau:Bydd Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith - dyfodol i'n Cymunedau- yn cael ei gynnal am 2pm ar ddydd Sadwrn Tachwedd 15ed yn Neuadd Undeb y Myfyrwyr, Caerdydd. Ymhlith y bobl fydd yn cymryd rhan yn y Rali mae yr Athro Hywel Teifi Edwards, Leanne Wood AC Alun Ffred Jones Ac a Sian Howys, arweinydd ymgyrch Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith.