Cefnogaeth o bob cyfeiriad i Ddeddf Iaith Newydd

Alexia Bos SoleHeddiw (Sadwrn 25, Mawrth), yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth, bydd aelodau yn clywed bod dadleuon y mudiad o blaid Deddf Iaith Newydd bellach wedi ennill cefnogaeth eang ymhlith cyrff a phleidiau gwleidyddol ar draws Cymru. Ymhellach, clywir am dystiolaeth rhyngwladol sydd yn cadarnhau fod deddfwriaeth o’r fath yn allweddol os am ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

Gwersi o GataloniaYn ei hanerchiad i’r Cyfarfod Cyffredinol, bydd y siaradwraig wadd, Alexia Bos Solé o Ganolfan Ciemen yn Barcelona yn pwysleisio pa mor bwysig yw deddfwriaeth gadarn i’r dasg o adfer iaith leiafrifol. Yn ystod ei chyflwyniad - 'Deddfwriaeth Iaith yn Gwneud Gwahaniaeth: Profiad Catalonia' - bydd Ms Solé yn tystio i'r modd y mae cysyniadau megis statws swyddogol a hawliau iaith wedi bod yn gonglfeini i bolisi a deddfwriaeth iaith yng Nghatalonia ers dros ugain mlynedd. Ymhellach bydd yn nodi fod meddu ar hawliau a statws o'r fath yn hanfodol os am hybu ac ehangu'r defnydd o iaith leiafrifol.1cyfcyff2006.jpgConsensws Cynyddol yng NghymruDaw’r sylwadau cefnogol hyn wedi cyfnod o rai wythnosau lle gwelwyd consensws cynyddol yn datblygu yng Nghymru ynglyn â’r angen i adolygu a chryfhau’r ddeddfwriaeth iaith bresenol. Meddai Catrin Dafydd, arweinydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd:"Dros yr wythnosau diwethaf, gwelwyd consensws cynyddol yn datblygu, ymlhith gwahanol gyrff a phleidiau gwleidyddol ynglyn â’r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Gwelwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn datgan yn gyhoeddus am y tro cyntaf bod angen adolygu a chryfhau y ddeddfwriaeth bresennol. Gwelwyd hefyd symudiadau cadarnhaol gan bob un o’r gwrthbleidiau – Plaid Cymru, y Rhyddfrydwyr Ddemocrataidd a’r Ceidwadwyr. Ychwanegwyd at bwysigrwydd datblygiadau o’r fath gan ddatganiadau cyhoeddus unigolion megis yr Arglwydd Gwilym Prys Davies a John Elfed Jones, cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith.""Mae’r cyrff a’r unigolion hyn bellach yn arddel rhai o ddadleuon sylfaenol Cymdeithas yr Iaith – hynny yw yr angen am ddeddfwriaeth sy’n sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg, yn sefydlu hawliau iaith sylfaenol i bobl Cymru ac yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg."cyfcyff2006.jpgYmateb y LlywodraethEr gwaethaf yr holl ddatblygiadau hyn, mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i wrthod cymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon. Maent wedi gwrthod danfon unrhyw gynrychiolwyr i’r cyfres o gyfarfodydd agored a drefnywd gan Gymdeithas yr Iaith ers y Nadolig, er mwyn egluro’r dadleuon o blaid Deddf Iaith Newydd. Ar ben hynny nid ydynt, hyd yn hyn, hyd yn oed wedi ymateb i bapur pwysig Bwrdd yr Iaith Gymraeg ‘Sefyllfa Ddeddfwriaethol yr Iaith Gymraeg’.Nododd Catrin Dafydd:"Mae ymateb y Llywodraeth wedi bod yn gwbwl anerbyniol. Yng ngwyneb yr amharodrwydd parhaol i drafod yn agored, bydd rhaid i Gymdeithas yr Iaith fynd ati i ddwyshau ei hymgyrchu."Iaith: Dysgu o brofiadau Catalonia - Newyddion BBC Cymru'r Byd'We must learn the language lessons of Catalonia' Western Mail