AS Ceidwadol, Simon Hart, yn dweud celwydd ynghylch maint y toriadau i gyllideb S4C

simon-hart.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'n llym yr Aelod Seneddol Toriaidd Simon Hart, am ddweud celwydd ynghylch maint y toriadau i gyllideb S4C mewn cymhariaeth a llefydd eraill o fewn y DCMS. Mewn ebost at aelod o'r Gymdeithas dywed Simon Hart:"... we discussed the matter with the PM direct which I think made a real difference in that the final announcement showed that the S4C cuts were in fact less than anywhere else in DCMS."Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gar, Cymdeithas yr Iaith:"Mae hyn yn gelwydd noeth, y gwir yw y bydd nifer fawr o feysydd sy'n cael eu hariannu gan DCMS yn gweld toriadau lot llai na'r 24.4% fydd yn cael ei dorri o gyllideb S4C. Mi fydd y British Museum, Natural History Museum, Imperial War Museum, National Gallery, a llu o amgueddfeydd eraill yn Llundain ond yn gweld toriad o 15%. Yn ogystal,13% o doriad fydd yn dod i'r 'Royal Household'."Ychwanegodd Menna Machreth, Cadeirydd grwp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith:" Yn hytrach na cheisio rhoi 'spin' a chamarwain pobl ynghylch maint y toriadau i gyllideb y sianel fe ddylai gwleidyddion megis Simon Hart weithio ar sicrhau fod S4C yn cael ei thynnu allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Mae'n rhaid gwarantu annibyniaeth rheolaeth ac annibyniaeth olygyddol lwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na'r Llywodraeth. Mae fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant, yn hanfodol er mwyn sicrhau arian teg i greu rhaglenni Cymraeg o safon. Rydym yn cydnabod y gallai S4C berfformio yn well - dyna pam rydym yn ymgyrchu dros S4C newydd, ond ni fydd hynny'n bosib o dan y cynlluniau hyn."