Cer nawr Rhodri! Galwad am Ddeddf Iaith gynhwysfawr.

Rhodri Morgan Yn dilyn ymateb Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol pan ddywedodd bod yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd a’r drafodaeth am ddyfodol am yr iaith Gymraeg yn "Boring, Boring, Boring", penderfynodd Cymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod neithiwr, i alw arno i ymddiswyddo’n syth yn hytrach nag aros am 4 mlynedd arall.

Dywedodd Catrin Dafydd, Cadeirydd Grwp Deddf Iaith:
Dyma’r cyfle i Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau Deddf Iaith Cynhwysfawr wrth iddynt greu deddfwriaeth newydd ar gyfer diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Os nad oes gan Rhodri Morgan ddiddordeb yn y mater holl bwysig yma, dylai ymddiswyddo er mwyn rhoi lle i’r gwleidyddion sydd yn barod i ymateb yn gadarnahol i’r angen i ddiwygo Deddf yr Iaith 1993 a symud agenda’r iaith Gymraeg yn ei blaen ar gyfer y ganrif newydd.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am statws swyddogol i’r Gymraeg, yr hawl i Addysg Gymraeg ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithlu ymysg pethau eraill. Mae nifer fawr o fudiadau eraill yng Nghymru yn cytuno a’r alwad dros Ddeddf Iaith ac mae’r Gymdeithas yn croesawu’r ffaith bod Dr Colin Williams, aelod amlwg o Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi datgan bod angen deddf iaith newydd yn seiledig ar hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg ac i greu Comisiynydd i’r iaith Gymraeg.Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi’r poster arbennig yma sy’n cynnwys llun o Rhodri Morgan a dynnwyd ar faes yr Eisteddfod wrth roi cyhoeddusrwydd i’w Rali Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd tu allan i Lywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd ar Hydref 1af pan gyda Hywel Williams AS, Mererid Hopwood, Hywel Teifi Edwards a Steffan Cravos.01-10-05-rali-din-bach.jpg