Cerdded o Dyddewi i Rali yn Nhrefdraeth

Bydd grŵp o gerddwyr yn dechrau ar eu taith o Dyddewi ddydd Iau yr 21ain o Hydref ac yn cyrraedd Trefdraeth ar gyfer rali Nid yw Cymru ar Werth ar draeth y Parrog ddydd Sadwrn y 23ain o Hydref.

Neges y cerddwyr yw bod ail dai a thai haf yn effeithio ar gymunedau ar draws y sir, ac nad problem yng ngogledd y sir yn unig yw hi.

Dywedodd  un o drefnwyr y daith gerdded:

"Rali i bobl Sir Benfro godi eu llais yw hon felly fe wnaethon ni benderfynu trefnu taith gerdded o dde'r sir er mwyn gwneud yn siŵr bod llais de'r sir yn cael ei glywed. Mae ail dai a thai haf yn effeithio ar gymunedau yn Ninbych y Pysgod a Solfa hefyd, mae'r cymunedau yma'n newid hefyd.

"Does dim cymaint o Gymraeg i'w glywed ar strydoedd Hwlffordd ag sydd ar strydoedd Crymych ar hyn o bryd, ond mae ysgol Gymraeg newydd i agor ym Mhenfro ac mae mwy o rieni eisiau addysg Gymraeg i'w plant ers agory Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd. Mae'r cyngor yn buddsoddi yn nyfodol y Gymraeg yn y sir, ond os na fydd y bobl ifanc yma'n gallu fforddio aros neu os na fydd tai ar gael iddyn nhw, beth fydd diben y buddsoddiad yna yng nghymunedau de'r sir?"