Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.
Dywedodd Iestyn ap Rhobert, arweinydd ymgyrch Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg."Mae'r argyfwng tai sy'n wynebu ein cymunedau yn anferthol. Nid yw ein pobol ifanc bellach yn gallu fforddio byw yn eu bröydd genedigol. Fe fyddwn yn codi'r 'tŷ unos', â'i gludo i Uned Llywodraeth y Cynulliad er mwyn tynnu sylw at y broblem.""Yr ydym hefyd fel Cymdeithas am droi y feddylfryd sydd wedi rheoli'r farchnad dai yng Nghymru ers dyddiau Margaret Thatcher ar ei phen drwy bwysleisio yr angen am dai ar rent. Er mwyn lleddfu y broblem dai yng Nghymru yr ydym am bwysleisio YR HAWL I RENTU yn hytrach na'r HAWL I BRYNU.""Er i ni gael cyfarfodydd gyda llu o wleidyddion dros y blynyddoedd, gan gynnwys un diweddar gyda Jocelyn Davies y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros dai , ac er ein bod yn croesawu rhai o gynlluniau Llywodraeth Cymru ofnwn nad ydynt yn mynd yn ddigon pell i ateb gofynion pobol Cymru. Dyna sydd wrth wraidd ein protest yn yr Eisteddfod eleni wrth i ni alw unwaith eto am sefydlu'r egwyddor o'r HAWL I RENTU."