Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Datblygu neu ddirywio

Mewn llythyron at y pedair plaid yn y Cynulliad, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am gamau i sicrhau twf a datblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd Miriam Williams ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'r Coleg yn sefydliad allweddol bwysig o ran gwireddu'r hawl i astudio'n Gymraeg ym maes addysg uwch - a gobeithiwn y gall hefyd wneud hynny'n gynyddol ym maes addysg bellach dros y blynyddoedd i ddod. Mewn cyfarfod diweddar gyda'r Prif Weinidog, buodd o'n gwbl glir i ni ei fod yn gwbl ymrwymedig i'r sefydliad ac am weld gwaith y Coleg yn parhau ac yn tyfu. Wrth gwrs, mae angen sicrhau cyllideb y coleg, ond mae angen mynd ymhellach na hynny, a datblygu mewn meysydd newydd fel addysg uwch. Dylai'r Coleg allu datblygu cyrsiau cyffrous newydd, ac agored i bawb, i sicrhau gweithlu addas i wasanaethu cyrff cyhoeddus Cymru."