Coleg Ffederal Cymraeg - Galw ar y Llywodraeth i gadw addewid

Coleg ffederal CymraegHeddiw (Dydd Mawrth, Tachwedd 27 2007) fe fydd grwpiau ymgyrchu ym maes Addysg Gymraeg yn y Sector Addysg Uwch yn cyflwyno dogfen sylweddol a manwl i'r Gweinidog Addysg er diben hwyluso a phrysuro eu gweithrediad o'i polisi Coleg Ffederal Cymraeg. Cefnogir y papur hwn gan sawl grwp ymgyrchu; Ymgyrchoedd Iaith Gymraeg Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC), Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), Cymdeithas Gymraeg UWIC a Chelloedd Coleg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

piced-caerdydd-colegffed1.jpgMeddai Rhys Llwyd, swyddog Iaith Gymraeg UCMC:"Mae'n destun llawenydd i'r grwpiau ymgyrchu bod y syniad o Goleg Ffederal Cymraeg yn fyw ac yn iach ar yr agenda wleidyddol a'r cysyniad o leiaf wedi ei fabwysiadu fel polisi Llywodraeth bellach. Fodd bynnag mae'n hanfodol bwysig yn awr y bo'r Llywodraeth a'r Gweinidog Addysg yn sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth ac yn peidio ildio i'r demtasiwn a sefydlu ty hanner ffordd."Ar Fai'r 3ydd 2007 fe gafodd dinasyddion Cymru eu hawl democrataidd i bwyso a mesur polisiau'r gwahanol bleidiau a tharo pleidlais i bennu pwy fydd yn eu llywodraethu am y pedair mlynedd ddilynol. Ni lwyddodd y blaid Lafur i ennill mwyafrif clir i ffurfio Llywodraeth, ac felly daethpwyd i gytundeb â Phlaid Cymru ar sail rhaglen lywodraethol a adwaenwn fel Cymru'n Un. Gan fod sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn rhan o faniffesto Plaid Cymru, fe'i coleddwyd, mewn cytundeb â'r Blaid Lafur, yn un o bolisiau rhaglen lywodraeth Cymru'n Un.Meddai Menna Machreth, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym ar ddeall bod y cwestiwn o Goleg Ffederal Cymraeg yn peri peth tensiwn o fewn y glymblaid oherwydd mae'r cyfeiriad ato yn y ddogfen Cymru'n Un yn anelwig. Mae tystiolaeth yn dangos fod llawer o wleidyddion wedi mabwysiadu polisi nad oedden nhw yn llawn ddeall ei arwyddocad hir-dymor. Ein gobaith ni gyda'r ddogfen hon yw cyflwyno yr hyn a olygir wrth Goleg Ffederal Cymraeg."Wrth gyflwyno eu papur nhw i'r Llywodraeth y mae'r grwpiau ymgyrchu wedi siomi nad ydyw cynlluniau'r Sector Addysg Uwch, sydd hefyd yn cael eu lansio yr un diwrnod, wedi cymryd y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf i ystyriaeth. Fe fydd yr ymgyrchwyr yn picedu lansiad cynlluniau AUC (Addysg Uwch Cymru) tu allan y Senedd, Bae Caerdydd am 5.00 pm (Tachwedd 27) wrth lansio eu papur amgen nhw.Mae'r Sefydliadau Addysg Uwch ac yn enwedig AUC wedi methu ag ymateb i'r datblygiadau gwleidyddol a'r cyfeiriad polisi newydd gan y llywodraeth. Mae'r cynlluniau sydd gerbron gan AUC Ddydd Mawrth, Tachwedd 27 2007 yn rhai a luniwyd cyn etholiad Mai 2007 ac nid yw eu cynlluniau yn adlewyrchu'r tro pedol a fu ym mholisi'r llywodraeth parthed y gefnogaeth i sefydlu CFfC. O edrych ar eu cynlluniau, mae AUC fel pe tasent yn anwybyddu'r ffaith y bu etholiad a bod polisi'r llywodraeth wedi newid ar y mater - yr ewyllys wleidyddol bellach o blaid sefydlu CFfC.piced-caerdydd-colegffed2.jpgMeddai Rhys Llwyd eto:"Argymhellwn yn gryf felly i'r llywodraeth weithredu ar frys ac i ochel cyfeirio at gynlluniau cyn-etholiad AUC fel rhan o'r polisi CFfC. Mae'r penderfyniad gwleidyddol wedi ei wneud bellach i gefnogi a sefydlu CFfC; rôl AUC yw ymateb i'r ewyllys wleidyddol ddemocrataidd ac nid ei hanwybyddu a bwrw ymlaen heb ystyried y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf. Mae'n dweud llawer am ewyllys y sector y bo'r grwpiau ymgyrchu wedi cyflwyno papur manwl ar gynllun gweithredu i'r polisi Coleg Ffederal Cymraeg i'r llywodraeth tra bod swyddogion y Sector Addysg Uwch yn parhau i sôn am gynlluniau oedd gerbron cyn newid polisi'r Llywodraeth.”Nid yw prif egwyddorion Coleg Ffederal Cymraeg, sef (i) y syniad o gorff statudol newydd er budd datblygu Addysg Gymraeg yn cael (ii) ffrwd arian sylweddol ac annibynnol, yn syniadau newydd ond efallai bod rhai manylion yn y papur a gyhoeddir heddiw yn gyfraniadau newydd i'r drafodaeth. Hyderwn fod y llywodraeth wrth fabwysiadu'r polisi o Goleg Ffederal Cymraeg o leiaf yn derbyny ddwy egwyddor graidd ond efallai heb ystyried y ffurf a'r strwythur. Mae'r papur sydd gerbron heddiw felly yn ymgais i roi cig ymarferol ar esgyrn egwyddorol.piced-caerdydd-colegffedera.jpgRydym yn galw ar y llywodraeth i fabwysiadu'r model hwn ac i wrthod derbyn bod cynlluniau AUC unrhyw beth tebyg i Goleg Ffederal Cymraeg oherwydd nad yw eu cynlluniau yn arddel y ddwy egwyddor sylfaenol heb sôn am fân strategaethau eraill sy'n cael eu trafod ym mhapur y grwpiau ymgyrchu.• Mae'r papur wedi derbyn croeso gwresog yn breifat gan ambell wleidydd blaenllaw a gweision sifil yn y sector sy'n nodi fod y papur yn gyfraniad aeddfed a chyffrous i'r broses bolisi.• Mae copiau Cymraeg a Saesneg o'r papur ar gael i'w lawrlwytho yma:Coleg ffederal Cymraeg - Cynllun Gweithredu, Tachwedd 2007 (pdf - 452kb)Welsh Federal College - Implementation Strategy, November 2007 (pdf - 452kb)Mwy o Gymraeg yn y colegau? BBC Cymru'r Byd, 27 Tachwedd 2007Clecs Colegol, Blog Vaughan Roderick, 27 Tachwedd 2007