Colli Tryweryn - Colli Ysgolion - Colli Iaith

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Cychwynodd Taith Gerdded Cymdeithas yr Iaith dros Ysgolion Pentrefol Gwynedd heddiw gan gerdded o Ysgol y Parc (un o’r rhai cyntaf sy tan fygythiad) at y Capel Coffa ar lan Llyn Celyn. Bu cyfarfod byr am yn y Capel i gofio Tryweryn ac i ymdynghedu i frwydro i beidio a cholli chwaneg o gymunedau Cymraeg o ganlyniad i golli ysgolion.

Arweiniwyd y cerddwyr gan drefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd, Osian Jones, a esboniodd:"Byddai cau ysgolion fel y Parc yn golygu dedfryd ohiriedig o farwolaeth ar y gymuned Gymraeg leol. Byddai’r gymuned yn heneiddio gan na byddai rhieni ifainc mor barod i fyw mewn cymuned heb ysgol.""Collwyd cymuned Gymraeg o ganlyniad i golli Tryweryn, ond fe allem ni golli llawer yn fwy o gymunedau Cymraeg os na bydd gwrthwynebiad cryf i gynllun presennol Cyngor Gwynedd. Digalon oedd colli Tryweryn, ond mae cofio Tryweryn yn ein cryfhau i wynebu brwydr newydd."Roedd y gantores enwog, Heather Jones, yn canu'r gan 'Colli Iaith' yn y Capel Coffa ac yn hwyrach bydd cyngerdd gyda’r plant lleol yn Ysgol y Parc am 7pm (Nos Lun).Pwyswch yma am fanylion y daithtaith1.jpgtaith2.jpgtaith3.jpgtaith4.jpgtaith4.jpgtaith4.jpgtaith4.jpgtaith4.jpgtaith4.jpgtaith4.jpgtaith4.jpgtaith4.jpgtaith4.jpg