Colli cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym maes iechyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn ym maes iechyd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Safonau'r Gymraeg drafft i'w gosod ar gyrff rheoleiddio iechyd i’r Senedd yfory (12/07/2022).

Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith ymateb i ymgynghoriadau i nodi na fyddai'r Safonau fel maen nhw yn gwneud gwahaniaeth digonol i gleifion.

Dywedodd Gwerfyl Roberts, Cadeirydd grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith:

"Eto, mae'r Llywodraeth wedi penderfynu peidio herio cyrff rheoleiddio, a hynny ar draul cleifion a staff iechyd a gofal. Er bod y Llywodraeth yn arddel egwyddor ‘Y Cynnig Rhagweithiol’ ym maes iechyd, dydy'r Safonau ddim yn adlewyrchu hynny o gwbl.
“Mae’n werth nodi hefyd bod Comisiynydd y Gymraeg a'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi codi nifer o'r un pryderon â ni am fannau gwan a bylchau amlwg yn y Safonau fydd yn golygu nad yw cleifion yn derbyn gwasanaeth yn Gymraeg wrth gael triniaeth. Ond prin fod y Llywodraeth wedi cymryd sylw o hynny."

Dim ond gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn uniongyrchol trwy’r cyrff rheoleiddio sy'n cael eu cynnwys yn y Safonau arfaethedig, fyddai dim disgwyliadau i sicrhau bod unrhyw driniaeth ar gael yn Gymraeg.

Ychwanegodd Gwerfyl Roberts:

 "Dylai'r safonau hwyluso profiadau defnyddwyr, gan gynnwys aelodau proffesiynol, rhai dan hyfforddiant ac aelodau'r cyhoedd; a dylent fynd i'r afael â holl swyddogaethau cyrff rheoleiddio gofal iechyd.
"Nid yn unig mae hyn yn effeithio ar gleifion heddiw ond wrth anwybyddu dylanwad y cyrff rheoleiddio ar gynllunio gweithlu iechyd Cymraeg yng Nghymru, parhau fydd y sefyllfa, a bydd cleifion bregus yn parhau i gael eu hamddifadu o dderbyn triniaeth yn Gymraeg."

Bydd y Safonau yn mynd gerbron Cyfarfod Llawn y Senedd ar 12/07/2022: https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=12902