Comisiynydd newydd – 'hanfodol bod y rôl yn parhau'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i benodiad Aled Roberts yn Gomisiynydd newydd y Gymraeg, gan ddweud ei bod yn hollbwysig bod y rôl yn parhau.  

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:  

"Rydyn ni'n llongyfarch Aled Roberts ar gael ei benodi i'r rôl hynod bwysig yma: pencampwr y Gymraeg a'i siaradwyr. Mae model Comisiynydd wedi ennill ei blwyf yn rhyngwladol fel ffordd o ddiogelu ieithoedd eraill, ac mae’n llwyddo yng Nghymru mewn sectorau gwahanol gan gynnwys y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn. Does dim synnwyr yng nghynlluniau presennol y Llywodraeth i ddiddymu’r swydd a throi'n ôl at hen system wnaeth fethu amddiffyn ein hawliau i'r iaith. 

“Y peth cyntaf sydd angen i'r Comisiynydd newydd ei wneud yw gweithio gyda’r Llywodraeth i sicrhau bod pwerau’r Mesur presennol yn cael eu defnyddio’n llawn. Mae cyfundrefn y Safonau yn dechrau gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad ac mae modd eu hymestyn i gwmnïau dŵr, ynni, bws, trên, ffôn a band eang. Hyd yma, mae’r Llywodraeth wedi gwrthod gwneud hynny – mae angen mynd ati ar unwaith gyda’r Comisiynydd newydd i greu a gosod Safonau er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg yn y sectorau hollbwysig yma." 

"Mae bodolaeth Comisiynydd fel un pencampwr i'r Gymraeg yn golygu ei bod hi'n hawdd gwybod at bwy i droi i amddiffyn ein hawliau iaith. Mae angen i Aled Roberts sicrhau ei fod yn eiriolwr cryf dros yr iaith, gan sicrhau hefyd ei fod yn gwarchod ei annibyniaeth oddi ar y Llywodraeth.