Comisiynydd y Gymraeg i adolygu system gwynion

Mae Meri Huws wedi cytuno bod angen adolygu system gwynion Comisiynydd y Gymraeg, mewn cyfarfod gyda swyddogion Cymdeithas yr Iaith ar faes y Sioe Fawr heddiw (2pm, Dydd Mercher, Gorff. 24).

Gofynnwyd am gyfarfod gyda’r Comisiynydd yn dilyn rhwystredigaeth sawl un o aelodau’r Gymdeithas gyda’r system bresennol.

Meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Crag Farrar, ar ôl y cyfarfod: “Mi gawson ni gyfarfod adeiladol efo’r Comisiynydd ac mi wrandawodd hi ar ein pryderon ni. Roedd hi’n derbyn ein pwyntiau, ac mae hi wedi cytuno i adolygu’r system gwynion cyn gynted â phosibl. Rydan ni’n edrych ymlaen at gael yr amserlen ar gyfer hynny felly.”

Mewn llythyr a anfonwyd at y Comisiynydd dydd Llun, roedd Sian Howys llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi tynnu sylw at dri achos penodol, gan nodi: “Mae’r achosion ... yn codi cwestiynau mawr am drefn cwynion y Comisiynydd, ac am eich swyddogaeth fel eiriolwr i siaradwyr Cymraeg. Mae’r Gymdeithas wedi dadlau ers blynyddoedd dros greu Comisiynydd y Gymraeg, ond mae’n rhaid i’r swyddogaeth honno fod yn un sy’n ymateb yn gadarnhaol i bryderon siaradwyr Cymraeg ac yn mynd ati yn rhagweithiol i ddefnyddio’i phwerau i’w llawn botensial.

“Yn sgil yr achosion hyn yn benodol rydym yn galw arnoch i weithredu er mwyn sicrhau [nifer o] newidiadau [a chynnal] adolygiad o’r system derbyn a delio gyda chwynion...”

Gan dynnu sylw at yr angen am hawliau clir yn y safonau iaith, ychwanegodd: “Pan gafodd y Mesur Iaith ei basio, cawson ni addewid y byddai gan bobl Cymru hawliau iaith clir. Os yw’r hawliau i gael eu parchu a’u gwireddu, bydd rhaid i’r Comisiynydd fod a system gwyno gadarn iawn. Ar hyn o bryd, nid oes un gyda hi.”

Y llythyr llawn at y Comisiynydd