Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio'r toriadau arfaethedig i gyllideb S4C gan Lywodraeth Prydain: yn ôl stori yn y Guardian mae'r sianel yn wynebu toriadau hyd at 24% i'w chyllideb.Fe ddywedodd Rhodri ap Dyfrig, Llefarydd Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Cafwyd addewid gan y Toriaid cyn yr etholiad cyffredinol y byddai gwariant ar S4C yn cael ei warchod. Rydym felly'n hynod bryderus am y sïon hyn, a byddwn yn eu gwrthwynebu'n llwyr pe cânt eu gwireddu."Rydym wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i drafod y sefyllfa (20fed o Fai) ond heb glywed yn ôl hyd yma. Mae'r ddarpriaeth cyfryngau Cymraeg yn edwino ar draws pob cyfrwng o deledu i radio, heb sôn am y diffyg enbyd yn y cyfryngau gwe Cymraeg, felly mae angen i ni warchod yr hyn sydd gennym ni. Mae ein sefyllfa yn unigryw, ac er bod rhaid i S4C ail-edrych ar ei strategaeth a'i gweinyddiaeth yn yr un modd â phawb arall, mae angen gwarchod y gyllideb rhag niweidio allbwn y Sianel a difrodi iaith ac economi Cymru."Mae angen gwarchod y gyllideb rhag niweidio allbwn y Sianel a difrodi iaith ac economi Cymru. Mae'r buddsoddiad cyffredinol yng nghyfryngau Cymru eisoes yn isel ar gyfer y Gymraeg, yn ogystal a'r Saesneg, o ystyried yr hyn sydd ar gael yng ngweddill Prydain. Rydym ni fel Cymdeithas eisiau sicrhau dyfodol digidol i'r Gymraeg, a bydd gallu S4C i gyfrannu at hyn yn disgyn yn sylweddol pe cawn ni'r toriadau. Mae hyn yn tanlinellu'r angen dybryd i ddatganoli grym dros reoleiddio a'r cyfryngau yn llwyr i Gymru fel y gallwn sicrhau na fydd penderfyniadau yn cael eu cymeryd fydd yn tanseilio'r Gymraeg a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."
"Eto gwelwn bod ideoleg adain dde yn Llundain sy'n cefnogi'r farchnad rydd ar draul buddiannau pobl Cymru a'n cymunedau, yn tanseilio seiliau'r iaith yng Nghymru. Mae'r hinsawdd o ran yr economi ddarlledu yng Nghymru'n fregus eisoes, ac mae'r toriadau yn mynd i gael effaith andwyol ar gwmnïau a chymunedau yn y wlad. Bydd safon y ddarpariaeth yn gostwng, a bydd hi'n amhosib cynnal S4C fel ag y mae hi gyda'r toriadau a awgrymir yn y papurau. Mae adroddiad diweddar Yr Athro Hargreaves wedi nodi pa mor bwysig yw S4C i economi Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd sydd yn brin o waith yn barod."