Corff Hybu Iaith newydd heb ddeddfu – neges ymgyrchwyr i Weinidog

Mewn cyfarfod â Gweinidog y Gymraeg heddiw (dydd Mercher, 17eg Ionawr) bydd mudiad iaith yn argymell sefydlu corff newydd i hyrwyddo’r Gymraeg heb fod angen deddfu, mewn ymdrech i atal y Llywodraeth rhag gwanhau hawliau i’r iaith.

Mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog Eluned Morgan, bydd dirprwyaeth o’r mudiad yn dadlau y dylid rhoi’r gorau i’r cynlluniau ar gyfer papur gwyn arfaethedig a fyddai’n diddymu Comisiynydd y Gymraeg, gan ganolbwyntio ar wella a gweithredu’r system bresennol.

Ymhlith yr opsiynau y mae Cymdeithas yr Iaith yn eu hargymell yn eu hymateb i’r papur gwyn y mae: sefydlu corff hybu’r Gymraeg ar wahân i’r Comisiynydd a’r Llywodraeth a datblygu protocolau newydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wella’r system gwyno a dod â Safonau i rym.

Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn galw ar y Gweinidog i symud ar frys i weithredu ar sectorau sydd eisoes yn dod o dan y gyfraith, a’r gwaith paratoi wedi’i wneud gan y Comisiynydd, peth ohono ers blynyddoedd. Mae’r rhain yn cynnwys safonau ym maes trenau a bysiau, cymdeithasau tai, ynni a chwmnïau telathrebu.

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“‘Ry’n ni’n croesawu agwedd y Gweinidog ers iddi gael ei phenodi, yn enwedig ei sôn am wrando a’i bwriad i ganolbwyntio ar gyflawni prif darged y Llywodraeth sef cyrraedd miliwn o siaradwyr. Rydyn ni hefyd yn croesawu ei sylwadau ynglŷn â pheidio torri rhywbeth sy’n gweithio. Byddwn ni’n cyflwyno nifer o argymhellion adeiladol a manwl yn y cyfarfod heddiw ynglŷn â sut i symud ymlaen.

“I nifer ohonon ni, wedi’r pwyslais cadarnhaol iawn ar gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fe wnaeth y papur gwyn godi sgwarnogod anffodus oedd yn chwalu’r cyfeiriad clir a chadarn yna. Byddai’n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff, yn hytrach na gwastraffu amser ar bapur gwyn a fyddai, o’i weithredu, yn troi’r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg.

“Mae nifer o bethau y gallai’r Llywodraeth eu gwneud o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, a fyddai’n datrys nifer o broblemau heb ddilyn y trywydd yn y papur gwyn a fyddai’n arwain at golli momentwm. O ran gweithredu o fewn y system bresennol, byddai rhoi cyfrifoldeb i’r Comisiynydd lunio’r rheoliadau, ar y cyd â’r Llywodraeth, yn golygu bod mwy o arbenigedd ac adnoddau ynghlwm â’r broses o lunio’r Safonau, a fyddai hefyd yn osgoi oedi diangen. Rydyn ni hefyd yn argymell sefydlu protocol newydd rhwng Comisiynydd y Gymraeg a chyrff ynghylch cwynion a fyddai’n gwella’r system gwyno.

“Credwn hefyd y dylid sefydlu corff hyrwyddo yn ogystal â chadw’r Comisiynydd, a hynny heb fod angen deddfu. Byddai hynny’n golygu y gallai’r Comisiynydd barhau â’r gwaith rheoleiddio, gan ganiatáu i’r corff newydd hwn wneud y gwaith hybu a hwyluso.”