Corff iechyd yn cynghori aelodau i beidio cynnig gwasanaethau Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ymddiheuriad gan gorff sy’n cynrychioli optegwyr ar ôl iddyn nhw ddweud na ddylai eu haelodau cynnig gwasanaeth Cymraeg i’w cleifion.

Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Senedd, dywed Optometreg Cymru: “... bydden ni’n cynghori ymarferwyr i beidio â chynnal profion golwg nac archwiliadau clinigol mewn iaith heblaw’r iaith yr astudion nhw ynddi. Mae gennym bryderon am oblygiadau meddygol-gyfreithiol gynnal archwiliadau a chyngor clinigol drwy iaith heblaw am y Saesneg.”

Wrth gyflwyno tystiolaeth i’r Senedd fel rhan o’r un ymchwiliad, dywedodd y BMA, sy’n cynrychioli meddygon teulu, nad oedd problem gyfreithiol na chlinigol gyda chynnig ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg.

Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd wrthi'n ystyried cynnwys rheoliadau a fydd yn gosod dyletswyddau ar ddarparwyr gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod gwir angen cryfhau’r rheoliadau, ond mae cyrff proffesiynol yn dadlau fel arall.

Wrth ymateb i dystiolaeth Optometreg Cymru, dywedodd David Williams, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r sylwadau yn sioc ac yn hynod sarhaus. Dylen nhw fod yn perthyn i'r oes a fu, ac mae'r ffaith bod corff proffesiynol yn gallu dweud rhywbeth o'r fath yn dystiolaeth bellach bod angen rheoleiddio cryfach. Gobeithio y gwnaiff Pwyllgor Diwylliant y Senedd wrthod eu dadleuon i beidio â chryfhau hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd.

"Wedi blynyddoedd o'r Llywodraeth yn ceisio annog gwella agweddau yn y proffesiynau yma drwy strategaethau a chynlluniau gweithredu, mae'n anhygoel i ni bod Optometreg Cymru, fel corff proffesiynol, yn cynghori eu haelodau i beidio cynnig gwasanaeth Cymraeg. Mae'n agwedd ragfarnllyd ar y naw, yn wir, byddwn i'n mynd mor bell â dweud bod y corff yn wrth-Gymraeg. Dylen nhw ymddiheuro am y sylwadau hyn.

"Rydyn ni'n ymwybodol o nifer o optegwyr sy'n cynnig gwasanaeth ac ymgynghoriadau clinigol yn Gymraeg. Maen nhw'n cynnig gwasanaeth Cymraeg yn hollol naturiol, sy'n golygu safonau gofal gwell. Dydy Optometreg Cymru ddim hyd yn oed yn gwybod beth sy'n digwydd o fewn eu proffesiwn eu hunain - maen nhw'n hollol anwybodus.

"I fod yn deg i gyrff proffesiynol eraill, megis y BMA, er nad ydyn nhw wedi helpu i hyrwyddo'r Gymraeg prin o gwbl hyd y gwelwn ni, dydyn nhw ddim wedi mynd mor bell â gwneud honiadau hollol ddi-sail mewn ymdrech i atal eu haelodau rhag siarad Cymraeg gyda chleifion."