Creu hawliau iaith fydd ‘prawf cyntaf’ y Prif Weinidog

Mae’r Prif Weinidog yn wynebu ei ‘brawf cyntaf’ yn sgil ei gyfrifoldeb newydd dros y Gymraeg wrth iddo benderfynu ar y safonau iaith newydd, yn ôl ymgyrchwyr a fydd yn lansio addewid dros hawliau ar faes yr Eisteddfod heddiw.

Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y dylai safonau iaith newydd Llywodraeth Cymru - rheoliadau a fydd gosod dyletswyddau ar gyrff a chwmniau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - greu’r hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, yr hawl i weithio yn Gymraeg a’r hawl i chwarae yn Gymraeg.

Mewn trafodaeth gyda siaradwyr o’r pedair brif blaid ar y maes, bydd disgwyl i’r Aelod Cynulliad Keith Davies sôn am y driniaeth niwrolegol a gafodd fis Medi y llynedd ar ôl dioddef o salwch a olygodd ei fod wedi troi yn ôl at ei famiaith, sef y Gymraeg. Nid oedd neb ar gael yn yr ysbyty i gyfathrebu ag ef yn y Gymraeg. Y siaradwyr eraill fydd yr Aelodau Cynulliad Elin Jones ac Aled Roberts a’r Cynghordd Aled Davies.

Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau’r Gymdeithas a fydd yn cadeirio’r cyfarfod:

“Ry’n ni wedi clywed digon o siarad gan y Prif Weinidog am ei ymrwymiad i’r Gymraeg - mae’n hen bryd iddo gyflawni. Dyna yw ei brawf cyntaf yngŷn â’r hyn mae e’n mynd i’w wneud dros y Gymraeg. Mae gyda fe benderfyniad i’w wneud a allai warantu gwell defnydd o’r Gymraeg ar hyd a lled y wlad. Mae’r cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau - ac mi fyddwn ni’n ei ddal e i gyfrif. Yn ei ddwylo fe mae un o'r penderfyniadau pwysicaf - penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy."

“Rydyn ni’n gofyn am hawliau clir i bobl, ar lawr gwlad, i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae angen yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith. Gallai safonau o'r fath helpu'r Llywodraeth yn fawr i gyflawni amcanion ei strategaeth iaith. Felly, does dim esgus na rheswm gan Carwyn Jones ond rhoi’r hawliau hynny yn y safonau. Mae siarad yn hawdd, y gwneud sy’n gofyn am arweiniad go iawn."
 

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod cynrychiolaeth o’r bedair plaid yn y cyfarfod heddiw. A gobeithio y daw consensws traws-bleidiol dros hawliau clir yn y safonau iaith newydd.”

Yn siarad cyn y digwyddiad yn yr Eisteddod, dywedodd Keith Davies, yr Aelod Cynulliad dros Lanelli: “Rwy’n ymwybodol iawn o fy mhrofiad personol i a’r teulu o’r drafferth wrth drio cael triniaeth yn Gymraeg. Amser o’n i yn yr ysbyty golles i’r gallu i siarad Saesneg. Heddyr, fy ngwraig, oedd yn gweud y stori wrtha i gan bo fi ddim mewn cyflwr i gofio. Doedd neb ’na yn deall beth o’n i’n gweud gan taw dim ond Cymraeg o’n i’n siarad.

“Mae’n bwysig bod staff yn y gwasanaeth iechyd yn siarad gyda chleifion yn Gymraeg. Mae Gwenda [Thomas, y Dirprwy Weinidog Iechyd] wedi gweud yn y Cynulliad bod angen gwella hyn - a gobeithio bydd y safonau iaith yn ffordd o sicrhau bod barn Gwenda yn cael ei ffordd o ran gwella’r ddarpariaeth.”