Croesawu bwriad y Llywodraeth i symud at addysg Gymraeg i Bawb

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu sylwadau'r Gweinidog Addysg bod bwriad i symud tuag at addysg Gymraeg i bob plentyn, yn dilyn cyfarfod heddiw.  

Wedi iddo lansio ei strategaeth 'Dyfodol Byd-eang' sy'n seiliedig ar strategaeth iaith 'dwyieithog a mwy' heddiw, cyfarfu'r Gweinidog gyda dirprwyaeth o grwp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dywedodd y Gweinidog Huw Lewis wrth yr ymgyrchwyr: "Mae’r cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith yn gysyniad sydd ddim yn gweithio bellach, felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i gael cymhwyster o’r fath". Ychwanegodd: "Dysgais i Gymraeg fel ail iaith, a dwi heb elwa llawer ohono.”'. Dywedodd y byddai'n rhesymol disodli'r pwnc Cymraeg ail iaith o fewn 5 mlynedd, ac yn ei le sefydlu system sy'n sicrhau bod pob disgybl yn siarad Cymraeg gan ddweud hefyd bod dysgu mwy o bynciau mewn ysgolion Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg 'yn rhan o'r ateb'.

Wrth ymateb i sylwadau'r Gweinidog yn y cyfarfod, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:    

"Rydyn ni'n falch bod y Gweinidog yn gweld bod angen sicrhau bod pob disgybl, pa ysgol bynnag maen nhw'n ei mynychu, yn siarad Cymraeg yn rhugl. Yn wir, rydyn ni'n falch ei fod yn bwriadu dileu Cymraeg ail iaith, ac yn lle, sicrhau bod fwyfwy o bynciau mewn ysgolion Saesneg yn cael eu dysgu drwy'r Gymraeg. Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at gyhoeddiad y Llywodraeth am sut y byddan nhw'n gweithredu ar argymhellion adroddiad Sioned Davies cyn ei Gynhadledd i drafod y cwricwlwm ar ddiwedd y misRydyn ni'n gobeithio mai un cymhwyster, Cymraeg i bawb, fydd yr un newydd sy'n golygu bod pob un gyda'r gallu i weithio a chyfathrebu yn Gymraeg pan maen nhw'n gadael ysgol." 

Ychwanegodd: 

"Er bod newyddion calonogol o'r cyfarfod, dydyn ni ddim wedi cael sicrwydd bod bwriad gosod targedau er mwyn sicrhau bod 'na, yn gynyddol, ragor o bynciau mewn ysgolion Saesneg yn cael eu dysgu drwy'r Gymraeg. Dyna oedd argymhelliad clir adroddiad Yr Athro Sioned Davies a gomisiynwyd gan y Llywodraeth. Byddai'n destun pryder pe byddai'r Llywodraeth yn datgan bwriad i bob plentyn fod yn rhugl eu Cymraeg, ond heb fecanwaith i sicrhau bod newid ar ddiwedd y dydd. Rydyn ni wedi gweld nad oes gwella sylweddol wedi bod drwy'r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Heb gynllun bwriadus a thargedau statudol cadarn, ni fydd modd gwella'n sylweddol ar y sefyllfa bresennol. Mae cynllunio'r gweithlu hefyd yn allweddol fel bod modd sicrhau cyflenwad digonol o staff i wireddu'r uchelgais."    

Yn y wasg:

WalesOnline

Golwg360