Croesawu cynllun i adfywio cymunedau gwledig Sir Gâr

Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi croesawu'n fawr adroddiad a osodir gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw ar adfywio cymunedau gwledig y sir.

Mewn ymateb, dywed Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin:
"O dderbyn a gweithredu ar argymhellion yr adroddiad ar adfywio cymunedau gwledig y sir, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gosod esiampl i Gymru gyfan ac yn cywilyddio Llywodraeth Cymru a'i sbarduno i weithgarwch.

"Mae'r argymhellion yn gwbl gywir yn gosod y pwyslais ar broblem yr allfudiad o bobl ifainc o'n cymunedau gwledig. Prif achos dirywiad y Gymraeg yn lleol yw fod pobl ifainc sy wedi eu magu'n Gymraeg ac yn derbyn eu haddysg yn Gymraeg yn gorfod gadael y sir oherwydd na welant unrhyw ddyfodol iddynt eu hunain yn lleol.

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o fod wedi cyfrannu tystiolaeth at yr adroddiad, a byddwn yn astudio'r argymhellion yn ofalus ac yn edrych ymlaen at gynllun ac amserlen eu gweithredu a'u gwerthuso.

"Croesawn yn arbennig y gydnabyddiaeth y gall ffedereiddio ysgolion fod yn dechneg o bwys i sicrhau eu dyfodol a chynnal ein cymunedau.

Mae heddiw yn ddiwrnod i longyfarch y Cyngor Sir yn fawr."