Croesawu hawliau newydd i wersi nofio Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r ffaith fod awdurdodau lleol bellach yn gorfod cydnabod hawl pobl i wersi nofio a chyrsiau eraill yn Gymraeg, wrth i reoliadau newydd ddod i rym.

Ar ddechrau 2015, pasiodd y Cynulliad reoliadau a elwir yn Safonau'r Gymraeg, gan greu hawliau newydd i'r Gymraeg. Mae dros gant o hawliau i'r Gymraeg yn y rheoliadau – o'r hawl i ohebiaeth Gymraeg, peiriannau hunanwasanaeth Cymraeg, dysgu'r Gymraeg yn y gweithle i gyrsiau yn Gymraeg.

Un o'r hawliau newydd hynny i'r Gymraeg ydy'r hawl i gyrsiau addysg yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwersi nofio. Mae pob un cyngor yn gorfod gweithredu'r hawl hon o'r 30ain Mawrth eleni ymlaen.

Dywedodd Manon Elin, llefarydd y Gymdeithas ar hawliau iaith:

"Mae'n hollbwysig fod gwersi nofio a gweithgareddau tebyg ar gael yn Gymraeg – nid yn unig er mwyn i'r iaith allu ffynnu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, ond hefyd er mwyn parchu'r hawl sydd gan blant, beth bynnag eu cefndir, i ddysgu a mwynhau yn iaith eu gwlad. Mae'n wych felly bod y gyfraith, o heddiw ymlaen, yn cydnabod yr hawl honno, ac y bydd Cynghorau Sir ymhob rhan o'r wlad yn gorfod darparu gwersi nofio a chyrsiau eraill yn y Gymraeg.

"Fe fyddai'n beth da pe bai pobl ymhob rhan o Gymru yn cysylltu â'u Cyngor Sir â'u canolfannau hamdden lleol er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r hawl newydd a'r cyfleodd cyffrous a ddaw yn ei sgil.

"Mae'r broses o osod Safonau'r Gymraeg wedi bod llawer yn rhy gymhleth, ond er y gwendidau, o'u gweithredu'n iawn bydd yn gam ymlaen. Maent yn rhoi hawl nid yn unig i wersi nofio, ond hefyd i siarad gyda'r awdurdodau yn Gymraeg dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb, ac i weld y Gymraeg ar eu gwefannau a'u hadeiladau – ac mae hynny i'w groesawu."