Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin i dderbyn strategaeth iaith newydd yn eu cyfarfod heddiw. Mae'r strategaeth wedi ei seilio ar argymhellion adroddiad 'Gweithgor y Cynulliad', gweithgor a sefydlwyd yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad a ddangosodd ddirywiad difrifol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir. Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr:
"Rydyn ni'n arbennig o falch fod y gweithgor amlbleidiol yn mynd i barhau er mwyn cadw ffocws ar y gwaith. Nodwn nad yw'r Cyngor wedi addo mwy na gweithredu rhai materion brys ac nad ydynt wedi rhoi amserlen bendant yn ei lle."
"Disgwyliwn yn awr fod amserlen weithredu mewn lle erbyn y Steddfod pryd y bydd llygaid Cymru ar Sir Gâr. Mae 115 o ddyddiau nes y byddwn ni'n cynnal Parti Mawr, yn uned y Cyngor Sir ei hun, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli – mwy na digon o amser i'r Cyngor gyhoeddi amserlen i ddangos eu bod o ddifri.”
Mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnu parti ar Ddydd Gwener 8ed o Awst gan ddisgwyl gallu dathlu fod y Cyngor Sir wedi gosod yr amserlen i fabwysiadu strategaeth newydd a fydd yn rhoi arweiniad i Gymru gyfan.
Cyn y cyfarfod heddiw, fe gododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith faner ar wal maes parcio Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin gyda’r neges “Cyngor Sir Gâr – Mae’n amser Gweithredu!”.
Yn ogystal, dosbarthwyd neges i gynghorwyr gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn gofyn i'r Gweithgor barhau i weithio ar 3 maes sydd i'w gweld yn ddiffygiol yn y strategaeth:
- Sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg, nid byd addysg Gymraeg yn unig
- Bod ymchwil llawn i effaith stadau tai newydd ar gymunedau lleol a'r Gymraeg
- Gosod targedau i sicrhau fod y Cyngor yn gwneud y Gymraeg yn iaith ei weinyddiaeth ei hun
Sioned Elin yn siarad cyn y cyfarfod
Cefndir
Sefydlwyd Gweithgor y Cyfrifiad gan y Cyngor Sir er mwyn llunio strategaeth yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad a ddangosodd ddirywiad difrifol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir. Cyhoeddodd y Gweithgor adroddiad - Y Gymraeg yn Sir Gâr - ar y 25ain o Fawrth. Roedd y Cyngor llawn yn pleidleisio ar argymhellion adroddiad y Gweithgor heddiw.
Stori yn y wasg:
- Sir Gâr yn derbyn argymhellion iaith (BBC Cymru)
- Cyngor yn derbyn argymhellion iaith (Golwg360)
- Carmarthenshire to research Welsh-language speaker drop (BBC Wales)
- Mynnu Gweithredu erbyn yr Eisteddfod (cymdeithas.org)