Croesawu penderfyniad i beidio symud yn syth i gau Ysgol Felinwna

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Gabinet Cyngor Gwynedd am wrando ar gymuned leol, a pheidio symud yn syth i gau Ysgol Felinwna.

Does dim rheidrwydd ar Awdurdod Lleol i ymgynghori ar gau ysgol â llai na deg o blant felly roedd y Cabinet yn trafod argymhelliad mewn adroddiad heddiw i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau yr ysgol ar ddiwedd y flwyddyn addysg bresennol, a bod y disgyblion sy'n weddill yn cael eu hanfon i Ysgol Bontnewydd, sydd ddwy filltir i ffwrdd.

Roedd Cymdeithas yr Iaith yn pryderu am effaith cau Ysgol Felinwnda ar Ysgol Llandwrog, gan fod cydweithio agos rhwng y ddwy ysgol sydd yn rhannu pennaeth. Ymhellach, er nad yw hi’n "ysgol fach" (dan 10 disgybl) ond sydd ar y rhestr swyddogol o "Ysgolion Gwledig" y dylai fod rhagdyb gan Awdurdodau o blaid eu diogelu.

Byddai’r Rybudd Statudol i gau Ysgol Felinwnda yn enwi Ysgol Bontnewydd fel Ysgol Dderbyn ac wedi atal unrhyw bosibiliad o drafodaeth gyda'r ddwy ysgol am eu dymuniadau nhw. 

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n ddiolchgar fod Cabinet y Cyngor wedi penderrfynu peidio as gweithredu ar yr argymhelliad i gau Ysgol Felinwnda a danfon y plant at Ysgol Bontnewydd heb drafod gyda’r gymuned, ac yn gobeithio y bydd hyn yn agor y ffordd ar gyfer trafodaeth gadarnhaol gyda chymunedau Llanwnda a Llandwrog am ddarpariaeth addysg a datblygiad y ddwy gymuned Gymraeg hon. Gobeithiwn y bydd hyn yn creu cyfnod newydd lle mae Awdurdodau Lleol yn cydweithio gyda chymunedau lleol ac yn eu grymuso

“Bydd y Gymdeithas yn estyn pob cymorth at ysgolion a chymunedau Llanwnda a Llandwrog yn y Cyfnod Gwrthwynebiadau a fydd yn parhau am 28 diwrnod.

“Rydyn o’r farn er hynny na ddylai’r cyfnod hwn gychwyn tan ar ôl gwyliau'r Pasg er mwyn rhoi’r cyfle i bobl leisio barn nas rhoddwyd hyd yma.”