Croesawu ysgol Gymraeg i Sir Benfro

Wrth ymateb i'r argymhellion i ad-drefnu addysg fydd gerbron cynghorwyr Cyngor Sir Penfro wythnos nesaf dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr iaith:

"Er ei bod yn galonogol bod y cyngor yn cynyddu darpariaeth Gymraeg drwy agor ysgol Gymraeg 3-16 yn Hwlffordd byddwn ni am wybod beth fydd capasiti'r ysgol – fydd hi'n ddigon o faint? Rhaid gofyn hefyd pam nad oes darpariaeth ar gyfer y chweched dosbarth fel rhan o'r argymhellion. Pam fyddai disgyblion, sydd wedi derbyn eu haddsyg yn Hwlffordd, yn dewis mynd yr holl ffordd i Ysgol y Preseli yn hytrach nag i Goleg Sir Penfro?

"Rydyn ni hefyd yn annog cynghorwyr i beidio fod dan gamargraff bydd ysgol newydd yn cael ei chreu drwy gyfuno ysgolion Dewi Sant a Bro Gwaun. Cau Ysgol Dewi Sant sydd, i bob pwrpas, byddai hynny'n ergyd i'r economi leol. Pam lai na ellid creu ysgol dwy safle, a defnyddio'r cyfle i newid categori iaith yr ysgol i 2A, fel bod disgyblion yn derbyn rhan sylweddol o'u haddysg drwy'r Gymraeg?”

Ychwanegodd:

“Rydym am eu hannog hefyd i beidio colli cyfle i wella'r ddarpariaeth yn ardaloedd Dinbych y Pysgod, ble bydd ysgol gynradd Gymraeg yn cael ei hagor flwyddyn nesaf a Doc Penfro ble mae'r uned Gymraeg yn llawn. Fydd darpariaeth uwchradd Cymraeg yn Hwlffordd yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth iddyn nhw.

“Bydd yr hyn fydd yn cael ei benderfynu wythnos nesaf yn effeithio ar y sir gyfan am flynyddoedd i ddod felly mae'n hollbwysig fod sicrhau mynediad rhwydd at addysg Gymraeg ar draws y sir.”
Mae'r  opsiwn fydd o flaen y cyngor, a'r holl wybodaeth am y cyfarfod ar wefan y cyngor sir (ar gael yn Saesneg yn unig)
 
Y stori yn y wasg: