Croeso i adroddiad economi a’r iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu nifer o’r argymhellion mewn adroddiad gan grŵp a sefydlwyd i edrych ar y cysylltiad rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg a gafodd ei gyhoeddi heddiw.

Ymysg y prif argymhellion, dywed yr adroddiad:

  • y dylai fod yn ofynnol i fusnesau sy'n cael grant gan Lywodraeth Cymru ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog

  • y dylai fod yn ofynnol ar gyfer contractau yn y sector cyhoeddus ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog

  • y dylid newid y broses gaffael bresennol yn y sector cyhoeddus fel ei bod yn cyfeirio at y manteision i'r Gymraeg

  • dylid ystyried rhoi cyfrifoldebau datblygu economaidd i'r Mentrau Iaith

  • dylid mynd ati'n rhagweithiol i roi cyfle i fusnesau ddewis darpariaeth Gymraeg yn y rhaglenni hyfforddiant a sgiliau presennol a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer pobl ifanc, ee Go Wales, Twf Swyddi Cymru a chanolfannau Entrepreneuriaeth

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau clodwiw mae Llywodraeth Cymru wedi eu derbyn, ond pryd mae Carwyn Jones yn mynd i weithredu? Mae nifer o’r argymhellion yn yr adroddiad yn cefnogi’r hyn rydyn ni wedi pwyso amdano yn ein Maniffesto Byw. Rydyn ni’n croesawu’r argymhellion i roi rôl economaidd i’r mentrau iaith, sicrhau polisi caffael cadarnach, a gwneud darparu gwasanaeth Gymraeg yn hanfodol ar gyfer contractau a grantiau’r sector cyhoeddus.”

“Rydyn ni'n grediniol y gall ein hiaith unigryw ffynnu dros y blynyddoedd i ddod gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol. Ond er yr argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg, nid yw Llywodraeth Cymru yn ymateb o ddifrif. Yn lle newid polisïau a chyflwyno rhai newydd, rydyn ni wedi gweld mwy o'r un peth gan Carwyn Jones a'i Lywodraeth."

Wrth gyfeirio at y ffaith bod safonau iaith drafft Llywodraeth Cymru - a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni - yn groes i argymhelliad yr adroddiad y dylai fod yn rhaid i gwmnïau sy’n derbyn grant neu ennill contract gan gyrff cyhoeddus ddarparu gwasanaeth Cymraeg, ychwanegodd Robin Farrar: “Mae adroddiad heddiw yn argymell yn glir, fel y gwna strategaeth iaith y Llywodraeth ei hun, bod angen darpariaeth Gymraeg pan fo gwasanaeth yn cael ei gontractio allan gan gyrff neu’n cael eu darparu drwy grant. Ond mae safonau iaith drafft y Llywodraeth yn mynd yn gwbl groes i hyn trwy anwybyddu gwasanaethau o’r fath, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol. Rhaid diwygio’r safonau iaith ar frys er mwyn delio â gwendidau o’r fath a sicrhau bod gan bawb hawl i wasanaethau Cymraeg, boed nhw wedi eu contractio allan neu beidio.”

Ym mis Awst y llynedd, ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at Carwyn Jones gan ofyn iddo wneud datganiad o fwriad i newid chwe polisi sylfaenol erbyn 1af Chwefror 2014: addysg Gymraeg i bawb; tegwch ariannol i'r Gymraeg; gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg; safonau iaith i greu hawliau clir; trefn cynllunio er budd ein Cymunedau; a’r Gymraeg yn greiddiol i ddatblygu cynaliadwy.

Dyma'r adroddiad