Croeso i gyllideb S4C, ond angen sicrwydd tymor hir

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion bod Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth San Steffan, John Whittingdale yn cadw at addewid maniffesto'r Ceidwadwyr i beidio â thorri cyllideb S4C.

Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Wnaeth y Ceidwadwyr addo 'diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C' ac rwy'n falch nad ydyn nhw bellach yn bygwth torri grant y sianel. Nawr mae angen sicrwydd ariannol hir-dymor ar S4C – mae angen fformwla ariannu mewn statud sy'n cynyddu, fan lleiaf, gyda chwyddiant. Mae S4C wedi bod yn allweddol i barhad y Gymraeg dros y degawdau diwethaf, ac mae'n rhaid sicrhau bod ganddi'r adnoddau, y sicrwydd a'r annibyniaeth sydd eu hangen er mwyn datblygu.”