Crys Cymru wedi ei arwyddo, mewn ocsiwn

Heb allu mynd i bencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc, neu eisiau rhywbeth i'ch atgoffa o'r bencampwriaeth, beth gwell na chrys pêl-droed wedi ei arwyddo gan un o'r chwaraewyr - Joe Allen?
Dyna fydd un o'r gwobrau mewn ocsiwn bydd Cymdeithas yr Iaith yn ei chynnal yng nghlwb pêl-droed Aberystwyth ar y 9fed o Fedi - ond rydyn ni'n croesawu cynigion o flaen llaw.

Bydd yr holl arian sy'n cael ei godi yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adnoddau Cymraeg i Mind yn Aberystwyth ac i gynnal ymgyrchoedd y Gymdeithas yn lleol.

Dywedodd Bethan Roberts, Rheolwr Gweithredol Mind Aberystwyth:
“Mae Mind Aberystwyth yn elusen iechyd meddwl leol sydd yn sicrhau bod gan unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl rywle i fynd am gyngor a chefnogaeth. Byddwn yn defnyddio'r arian a godwyd drwy'r ocsiwn i wella darpariaeth gyfrwng Gymraeg yr elusen. Mae'n holl bwysig bod gan bobl y dewis i dderbyn gwasanaeth a gwybodaeth gyfrwng Gymraeg yn enwedig wrth ddelio gyda phroblemau sydd yn aml yn bersonol iawn. Rydym am wella'r wybodaeth Gymraeg yn ein canolfan 'galw-heibio' - bydd hyn yn golygu y byddwn yn medru cynnig gwybodaeth o safon uchel ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl, symptomau a thriniaeth yn y Gymraeg.”

Mae darpariaeth a gwasanaethau gofal ac iechyd yn Gymraeg yn rhywbeth mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymgyrchu amdano ers blynyddoedd.

Dywedodd Hawys Roberts, sydd yn un o drefnwyr yr ocsiwn ar ran y Gymdeithas:
“Mae pobl yn sôn yn aml am broblemau wrth geisio cael gwasanaethau meddygol yn Gymraeg. Yn ogystal â phwyso am ddeddfau fel bod modd i bobl gael gwasanaeth yn y Gymraeg mae pethau ymarferol fel hyn y gallwn ni wneud hefyd.
Yng Ngheredigion mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu gydag ysgolion pentref sydd dan fygythiad, yn ymgyrchu ar y Cyngor i newid iaith ei waith bob dydd – er bod gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg dydy pawb ddim yn cael cyfle i weithio'n Gymraeg er eu bod yn rhugl yn Gymraeg.”

Byddwn ni'n diweddaru digwyddiad ar facebook a bydd rhestr lawn o wobrau i ddilyn. Os na ellwch fod yno ar y noson a'ch bod yn dymuno rhoi bid o flaen llaw, cysylltwch: 01970 624501 / bethan@cymdeithas.cymru