Cwsmeriaid BT yn gorfod talu mwy am Wasanaeth Cymraeg

llun-senedd-310309.jpgTra bydd cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, am 9am ar ddydd Mawrth, Mawrth 31ain, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthdystio tu allan i adeilad y Senedd, i ddangos nad yw'r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn ddigon da a'r angen am Orchymyn Iaith eang. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo BT a gwleidyddion sy'n dadlau yn erbyn Gorchymyn Iaith eang o rwystro'r ffordd i'r Gymraeg.Fe ddaeth i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar bod BT yn codi mwy o arian ar gwsmeriaid yng Nghymru sydd yn dymuno derbyn gwasanaethau wrth y cwmni telegyfathrebu yn y Gymraeg. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd y Gr?p Deddf Iaith:"Mae BT yn annog pawb i gael biliau ar-lein ar hyn o bryd sydd wrth gwrs i'w ganmol am resymau cynaliadwyedd. Ond pe bai cwsmeriaid am dderbyn biliau yn y Gymraeg, ni fyddai dewis ganddynt ond derbyn biliau papur, am gost o £1.23 y mis, am nad yw BT yn darparu biliau Cymraeg ar-lein. Enghraifft arall yw'r teclyn ateb 1571, sydd yn rhad ac am ddim yn Saesneg, ond os am recordio neges cyfarch yn Gymraeg, rhaid talu £1.47 am y fraint. Am y gwasanaethau mwyaf sylfaenol yma yn Gymraeg, caiff y cwsmer ei gosbi £32.40 yn ychwanegol y flwyddyn gan BT."

Bydd BT yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth, yn galw am beidio â datganoli pwerau i ddeddfu ar y sector telegyfathrebu, a glynu at y trywydd gwirfoddol o gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Ychwanegodd Bethan Williams:"Mae Ann Beynon (cyfarwyddwraig BT yng Nghymru) a'r CBI yn brolio bod BT yn gwmni sy'n rhoi gwasanaethau sy'n gydradd â'r Saesneg, ac yn cwyno nad oes neb yn defnyddio'r gwasanaethau yma. Ond y gwir yw fod gwasanaethau Cymraeg yn anhygoel o brin, mae rhaid gwneud cais arbennig ar eu cyfer ac mae'n costio mwy i'w derbyn. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen am Orchymyn Iaith eang sy'n cynnwys bob sector er mwyn i'r Cynulliad allu creu mesur sy'n rhoi hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg o safon."Erthygl Daily PostGolygyddol Daily PostErthygl Western Mail