Cwtogiadau Cymraeg y BBC, S4C ddim yn saff

bbc-s4c.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi honni bod penderfyniad y BBC i ddiddymu ei wasanaeth chwaraeon ar-lein Cymraeg yn dangos na fyddai S4C yn saff gyda'r gorfforaeth.Meddai Menna Machreth, llefarydd Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Sut allwn ni ymddiried y BBC i ofalu am S4C yn iawn os mai dyma fel maen nhw'n trin y gwasanaethau Cymraeg sydd ganddyn nhw'n barod? Mae'n amlwg bod y BBC ddim yn deall anghenion yr iaith Gymraeg yn y byd amlblatfform newydd - mae hyn yn profi mai trychineb fyddai iddyn nhw draflyncu S4C hefyd, gan fod y cyfryngau newydd yn mynd i fod yn hollbwysig i ddyfodol y Gymraeg.""Dyma ddechrau toriadau eithafol i'r gwasanaeth ar-lein Cymraeg ac mae'r Gymdeithas ar ddeall fod rhagor o doriadau i'r adran ar-lein i ddod. Mae Radio Cymru eisoes wedi gorfod cwtogi oriau oherwydd toriadau. Mae'r toriadau 25% i wasanaethau ar-lein y BBC yn cael eu gweithredu ar draws y bwrdd, heb ystyriaeth i anghenion ieithyddol gwahanol Cymru."