Mae ymgyrchwyr iaith yn Wrecsam wedi gwneud cwyn swyddogol am y Cynghorydd Hugh Jones gan honni ei fod wedi torri côd ymddygiad y sir drwy wneud datganiad camarweiniol ynghylch defnydd y Gymraeg a chostau darparu gwasanaethau yn yr iaith.
Fe amcangyfrifodd Hugh Jones, yr aelod cabinet ceidwadol sy'n gyfrifol am y Gymraeg, yn anghywir y byddai cydymffurfio â'r Safonau Iaith Gymraeg yn costio oddeutu £700,000 y flwyddyn - cost sydd erbyn hyn wedi ei adolygu lawr i lai na thraean o'r swm. Darganfyddodd aelodau Cell Wrecsam Cymdeithas yr Iaith Gymraeg nad oedd y Cyngor wedi ymdrechu i gysylltu â darparwyr i ofyn prisiau wrth amcangyfrif y costau gwreiddiol. Pan ddaeth y gwir gostau - cannoedd o filoedd o bunnoedd yn llai - i'r amlwg, honna'r mudiad y ceisiodd y Cynghorydd Jones guddio'r gwallau gwreiddiol gan roi gwybodaeth anghywir i'r Bwrdd Gweithredol.
Honnodd Cyng. Jones hefyd mewn cyfarfod o'r Bwrdd Gweithredol bod mwy o alw am wasanaethau'r Cyngor ym Mhwyleg ac ym Mhortiwgaleg nag yn Gymraeg. Mae Cymdeithas yr iaith wedi gofyn, ar fwy nag un achlysur, am dystiolaeth i gefnogi hyn, ond yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw ymateb. Yn ôl y cyfrifiad, llai na 500 o siaradwyr Portiwgaleg oedd yn y sir yn 2011 tra bod adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod bron 7,000 o bobl Wrecsam yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.
Dywedodd Raymond Floyd, un o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a wnaeth y cwyn: “Ymdrechodd Cynghorydd Hugh Jones yn bwrpasol i ledaenu bygythiadau o gau llyfrgelloedd a diswyddo staff yn seiliedig ar amcangyfrifon costau hollol anghywir. Yn yr un modd, credwn ei fod wedi dylanwadu yn amhriodol ar agweddau Aelodau eraill tua'r Safonau Iaith a chyfaddawdu didueddrwydd gweithwyr y cyngor ar y mater.
"Gan fynd ati i greu gymaint o ddrwgdeimlad a gelyniaethu siaradwyr Cymraeg, mae Cyng. Hugh Jones wedi profi'r angen i drosglwyddo cyfrifoldeb dros y Gymraeg i rywun sy'n gefnogol o'r iaith."
Mae pryder ymysg yr ymgyrchwyr mai gwariant arian cyhoeddus sydd dan sylw yn hytrach na hawliau siaradwyr Cymraeg Wrecsam i gael eu trin yn gyfartal a medru defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn eu mamiaith.
Ychwanegodd Aled Powell, cadeirydd Cell Wrecsam: "Dylai'r Bwrdd Gweithredol gofio nad £97,000 oedd amcangyfrif gwreiddiol Cyng. Jones am feddalwedd gwirio sillafu Cymraeg, fel yr honnodd yn Nhachwedd, ond £173,000. Darganfyddom mai tua £10,000 yw'r wir gost ac felly mae'n ymddangos na ellir ymddiried yn Cyng. Hugh Jones i wario arian trethdalwyr Wrecsam mewn ffordd gyfrifol.
"Mae diffyg ymdrechu i sicrhau defnydd doeth o adnoddau'r awdurdod, camarwain y Bwrdd Gweithredol a'r cyhoedd yn ymddygiad annerbyniol gan Gynghorydd."