Cychwyn achos llys yn erbyn polisi cynllunio 'anghyfreithlon' y Llywodraeth

Mae ymgyrchwyr wedi cychwyn her gyfreithiol yn erbyn canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, y maen nhw'n honni sy'n atal cynghorwyr rhag ystyried effaith iaith y rhan fwyaf o geisiadau datblygu, mae mudiad wedi cyhoeddi heddiw (dydd Llun, 6ed Awst).   

Yn 2015, pasiwyd Deddf Cynllunio (Cymru) a sefydlodd am y tro cyntaf bod y Gymraeg yn ystyriaeth statudol yn y gyfundrefn gynllunio. Mae'r gyfraith yn galluogi cynghorwyr i wrthod neu i ganiatáu datblygiadau ar sail eu heffaith iaith ym mhob rhan o Gymru. Fodd bynnag, y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau cynllunio ynghylch sut i ymdrin â'r Gymraeg yn y broses gynllunio, o'r enw Nodyn Cyngor Technegol 20. Mae'r canllawiau hynny'n dweud nad oes modd i gynghorwyr ofyn am asesiad o effaith iaith datblygiad oni bai ei fod yn un 'mawr', 'ar safle ar hap' ac o fewn ardal sy'n cael ei diffinio fel un 'arwyddocaol' yn ieithyddol. Er gwaethaf pryderon Comisiynydd y Gymraeg a mudiadau iaith, gwrthododd y Llywodraeth newid y canllawiau yn ystod y broses ymgynghori.  

Yn dilyn cyngor gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis, mae cwmni cyfreithiol, Cyfreithwyr JCP, wedi anfon llythyr cyn-gyfreithia at y Llywodraeth ar ran Cymdeithas yr Iaith, yn mynnu ei bod yn newid y canllawiau gan eu bod yn groes i'r Ddeddf a basiwyd yn 2015.     

Bydd cychwyn yr achos llys yn un o'r pynciau trafod ar faes yr Eisteddfod heddiw (2pm dydd Llun 6ed Awst) ar stondin y Gymdeithas ym Mae Caerdydd. Yn siarad cyn y digwyddiad, meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae'r Gymdeithas yn credu'n gryf bod y Gymraeg yn perthyn i bob rhan o'n gwlad, nid rhai ardaloedd yn unig. Ers dechrau datganoli, mae pob Llywodraeth, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi pregethu a deddfu er mwyn gwneud hynny'n gwbl glir. Ond, pan ddaw hi at ganllawiau cynllunio mae Llywodraeth Llafur Cymru yn gwrthod cydnabod yr hawl i gynghorwyr ystyried effaith iaith pob math o ddatblygiad. Er enghraifft, os nad yw ysgol Gymraeg yn rhan o stad newydd o dai yng Nghaerdydd, neu rywle arall yn y de-ddwyrain, mae canllawiau ein Llywodraeth Genedlaethol ni ar hyn o bryd yn atal cynghorwyr rhag ystyried yr effaith niweidiol ar y Gymraeg. Dyna'r agwedd sy'n rhannol gyfrifol am y ffaith bod cynghorau fel Cyngor Caerdydd, yn hanesyddol, wedi datgan nad yw'r iaith yn rhan o wead cymdeithasol y brifddinas ac felly ei bod yn amherthnasol i'r system gynllunio."            

"Bwriad y Senedd wrth ddeddfu oedd sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn eang i ystyried unrhyw beth yn ymwneud â’r Gymraeg wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Nid bwriad Aelodau Cynulliad oedd cyfyngu ar y disgresiwn drwy ragnodi amgylchiadau penodol ar gyfer ei arfer. Fodd bynnag, yn groes i'r Ddeddf, dyna’n union mae'r canllawiau yn ei wneud, drwy ddatgan mai dim ond wrth ymateb i gais ar gyfer “datblygiad mawr” “ar safle ar hap” sydd hefyd “o fewn ardal wedi ei diffinio fel un ieithyddol sensitif neu arwyddocaol” y mae modd arddel y disgresiwn. Nid oes sail gyfreithiol i’r un o’r tri maen prawf ychwanegol hyn, sy’n cyfyngu'n sylweddol ar y disgresiwn y bwriedid ei roi yn gyfreithiol i awdurdodau lleol. 

Ychwanegodd: 

"Fe allai hon fod yn frwydr anodd, ond bydd yn frwydr werth chweil er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i'r iaith yn ein holl gymunedau."

Stori yn y Wasg:

Golwg360

Cymru Fyw