Cychwyn o'r newydd o ran ysgolion yw neges Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi galwad Cynghrair Ysgolion Gwynedd ar i’r Cyngor newydd gydnabod nad oes modd bellach iddo fynd ymlaen i basio’i Gynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion yn y sir. Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:"Mae’r un sefyllfa’n wynebu pwy bynnag fydd yn arwain y Cyngor. Fyddwn ni’n gwybod dim tan y flwyddyn nesaf am ddulliau cydweithio newydd rhwng ysgolion, a byddai’n gwbl annheg rhuthro i benderfynu ar ddyfodol ychydig o ysgolion unigol yn y cyfamser. Felly does gan y Cyngor ddim Cynllun ar ol i’w drafod yn ei gyfarfod ym mis Mehefin."

"Byddai’n well fod y Cyngor yn cydnabod hynny’n syth a defnyddio’r cyfle i gychwyn o’r newydd i geisio cytundeb am y ffordd ymlaen mewn cymunedau lleol.Trwy wneud hynny, gellid creu ysbryd newydd o ymddiriedaeth ac ymdrafod difrifol ac agored. Gallai’r trafodaethau ymledu hyd yn oed i fod yn drafodaethau am ddyfodol y cymunedau Cymraeg ac nid yn unig yr ysgolion. Efallai mai dyma’r hwb i ddechrau llunio o ddifri strategaeth am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg lleol gyda swyddogaeth allweddol newydd i ysgolion yn eu hadferiad."