Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol - 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol y mudiad yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn Hydref 24 gan gyhoeddi fod 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn dechrau am 10.30 y bore a'r Rali Flynyddol am 2 y prynhawn.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr oeddem yn falch iawn felly o gael gwahoddiad gan ein haelodau ym Merthyr Tudful i gynnal Cyfarfod Cyffredinol 2009 yn y dref honno. Mae Merthyr Tudful wedi chwarae rhan allweddol yn hanes Cymru ond fe fydd pwyslais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y dyfodol dyna pam yr ydym wedi dewis Chwyldro Newydd yn y Cymoedd fel y thema i'n gweithgareddau ar Hydref 24ain.""Byddwn yn trafod nifer o gynigion yn ystod y cyfarfod cyffredinol gan gynnwys cynnig ynghylch datblygiad tai andwyol Bodelwyddan, ac a ddylem ni gefnogi trefi sy'n ceisio rhwystro Tesco rhag dod i mewn i'w cymuned. Fe fyddwn yn cyflwyno Swyddog Cyfathrebu newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a benodwyd yn ddiweddar, Colin Nosworthy."

Dafydd Wigley i siarad yn Rali Flynyddol Cymdeithas yr IaithBydd Dafydd Wigley, a fu'n gweithio i Gwmni Hoover ym Merthyr Tudful, yn annerch yn y Rali Chwyldro Newydd yn y Cymoedd. Yn ogystal, bydd cyn-olygydd y Merthyr Express, Hywel Davies, yn siarad a'r awdures Catrin Dafydd y siarad am hawliau iaith. Yn dilyn y rali bydd gorymdaith i bencadlys Cyngor Sir Merthyr lle cyflwynir llythyr a rhestr o ofynion i'r Cyngor Sir yn ymwneud â'u agwedd tuag at y Gymraeg a'u diffyg blaengarwch ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg.Dywedodd Iestyn ap Rhobert, Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae nifer o gynghorau yn y De Ddwyrain, a Chyngor Merthyr Tudful yn arbennig wedi bod yn llusgo eu traed ar faterion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg ac mae aelodau Cymdeithas yr Iaith ym Merthyr Tudful wedi bod yn hynod o siomedig gyda'r arwyddion a thaflenni mae'r Cyngor yn ei gynhyrchu.""Mae'n arbennig o ofidus fod Cyngor Merthyr yn gwbwl amharod i fesur y galw sydd yna am addysg Gymraeg yn y Sir, pan mae'r galw am addysg Gymraeg ar gynydd."