Cyfarfu ymgyrchwyr iaith gyda'r Gweinidog Leighton Andrews heddiw er mwyn trafod cynigion i wella gwasanaethau Cymraeg trwy'r safonau iaith arfaethedig.
Cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg restr o hawliau sylfaenol y dymunan nhw eu gweld yn y safonau iaith, sef y dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, y mae gweision sifil wrthi'n eu hysgrifennu. Gofynnon nhw am hawliau megis yr hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, gwersi chwaraeon i blant, a hawl gweithwyr i ddysgu a gweithio trwy gyfrwng yr iaith.
Dywedodd Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw hawliau pobl Cymru, ar lawr gwlad, i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Yn y cyfarfod, pwysleision ni fod angen yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith. Gallai safonau o'r fath, sy'n hawliau clir i bobl Cymru, helpu'r Llywodraeth yn fawr i gyflawni amcanion eu strategaeth iaith."
"Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi cytuno i ystyried yr holl bwyntiau hyn, ac felly gobeithiwn yn fawr y gallwn ymddiried ynddo i gyflawni dros bobl Cymru. Yn ei ddwylo ef mae un o'r penderfyniadau pwysicaf - penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy."
Cytunwyd hefyd y byddai swyddogion y Gymdeithas yn cwrdd â gweision sifil yr adran i drafod y safonau cyn iddynt gael eu cyhoeddi.