Cyfarfod gyda Jane Davidson yn Eisteddfod yr Urdd

Jane Davidson Yn wyneb gwrthodiad Jane Davidson unwaith yn rhagor i gwrdd ag ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol, cyhoeddwyd heddiw y bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu’r cyfarfod ei hunan. Mae’r Gymdeithas yn gwahodd pawb sy’n ymboeni am ddyfodol ein hysgolion pentrefol Cymraeg i gyfarfod gyda Jane Davidson am 3.30pm Llun 30/5 yn Uned Llywodraeth y Cynulliad ar Faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd – ac yr ydym wedi gwahodd Jane Davidson i’r cyfarfod hefyd.

Dywed Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar addysg) fod Jane Davidson wedi danfon llythyr pellach atom yr wythnos hon yn gwrthod cyfarfod ag aelodau’r Gymdeithas nag ymgyrchwyr eraill i drafod yr angen am ganllawiau cadarnhaol newydd gan y Cynulliad ar gyfer datblygu ysgolion pentrefol. Meddai Mr Ffransis,"Does neb mor ddall â’r un na fyn weld. Dywed Ms Davidson yn ei llythyr atom nad yw’n gweld fod unrhyw broblem, ac y mae’n rhaid mai hi yw’r unig un yng Nghymru nad sy’n deall fod argyfwng yn wynebu ein hysgolion pentrefol o ganlyniad i bolisiau llywodraeth ganolog a lleol. Er mwyn ei goleuo hi, yr ydym yn gwahodd ymgyrchwyr o Gymru gyfan i ddod at y cyfarfod hwn ar faes Eisteddfod yr Urdd.""Yr ydym wedi ceisio trefnu’r cyfarfod ar amser a lle cyfleus i Ms Davidson, a gobeithiwn y bydd yn bresennol i wrando ar bryderon llawer o bobl. Nid yw’n debygol y bydd cyhoeddiad arall ganddi ar Ddydd Gwyl Banc, a bydd y cyfarfod yn uned Llywodraeth y Cynulliad ei hun o fewn 200llath i brif adeilad y Cynulliad yng Nghaerdydd."Yn ei llythyr at y Gymdeithas, y mae Jane Davidson yn derbyn yn llwyr safbwynt Cyngor Sir Caerfyrddin fod y ffaith i’r cyngor fabwysiadu ym 2001 strategaeth a gynhwysai gymal 'y byddai’n anorfod fod llai o ysgolion' yn rhoi rhwydd hynt iddynt yn awr fygwth hyd at 40 o ysgolion pentrefol – yn wir bob ysgol ond 4 sydd â llai na 50 o blant. Ni bu erioed trafodaeth nac ymgynghori yn y sir ynghylch cyflafan o’r fath yma. Nid yw Jane Davidson ond yn dweud yr amlwg trwy bwyntio allan na phasiwyd eto’r holl gynigion ac y bydd yn rhaid cael ymgynghori statudol ynghylch pob cynllun unigol. Ein dadl ni yw y dylai fod ymgynghori ynghylch yr holl egwyddor.Dywed Jane Davidson ymhellach yn ei llythyr fod canllawiau’r Cynulliad yn ddigon clir ynghylch dyfodol ysgolion bychain, ond y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dwyn anfri ar y canllawiau trwy eu hanwybyddu’n ddirmygus. Dywed y canllawiau• 'mai’r brif ystyriaeth yw’r effaith ar addysg' – ond nid oes unrhyw honiad fod problem addysgol yn y 40 ysgol a fygythir. I’r gwrthwyneb, y siroedd hynny sydd â’r canran uchaf o ysgolion pentrefol sydd yn cael y canlyniadau academaidd gorau yng Nghymru.• 'Byddaf yn edrych am dystiolaeth fod yr hyrwyddwyr (Cyngor Sir) wedi ystyried opsiynau eraill o ddifri'. Gan mai’r un opsiwn – cau ysgolion a chreu ysgol ganolog fawr – sydd gan y Cyngor Sir ar gyfer pob ardal yn eu cynllun, mae’n gwbl malwg nad ydynt wedi ystyried opsiynau eraill o ddifri.• Dywed canllawiau’r Cynulliad ymhellach fod yn rhaid gwerthuso effaith cau ysgolion ar gymunedau lleol – ac y mae diogelu cymunedau Cymraeg yn amcan corfforaethol gan Gyngor Sir Caerfyrddin – ond nid oes hyd yn oed gyfeiriad at hyn yn strategaeth “moderneiddio”’r Cyngor Sir.• Dywed y canllawiau fod angen hefyd gwerthuso effaith cau ysgolion ar y Gymraeg. Nid yn unig nad oes unrhyw gyfeiriad at hyn yn strategaeth y Cyngor Sir, ond y mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnig tystiolaeth heddiw y gallai’r Cyngor Sir ddiddymu dros nos – a heb drafodaeth – holl bolisi iaith ysgolion y sir trwy weithredu strategaeth o’r fath.Ychwanegodd Ffred Ffransis:"Ein dadl sylfaenol yw y dylai’r Cyngor Sir orfod cymryd y canllawiau o ddifri wrth lunio eu holl strategaeth yn hytrach na chyfeirio atynt funud olaf yng nghyd-destun cynigion i gau ysgolion unigol. Mae’r ffaith fod Jane Davidson yn fodlon i Gyngor Sir Caerfyrddin drin y canllawiau gyda dirmyg o’r fath yn dangos nad yw hi’n eu cymryd o ddifri chwaith. Ein gobaith yw y bydd yn fodlon trafod y mater ar y 30ain o Fai."