Cyfarfod Peter Hain i drafod y Gorchymyn Iaith

Heddiw am 2 o'r gloch bydd tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod Peter Hain yng Nghaerdydd i drafod y Gorchymyn Iaith. Y tri ar ddirprwyaeth y Gymdeithas fydd Menna Machreth (Cadeirydd), Bethan Williams (Arweinydd Ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas) a Ffred Ffransis (Senedd Cymdeithas yr Iaith).Dywedodd Menna Machreth ar ran dirprwyaeth y Gymdeithas:"Byddwn yn pwysleisio fod y system o drin a thrafod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg wedi bod yn llafurus, hirwyntog a chymhleth. Byddwn yn mynnu hefyd fod Aelodau Seneddol wedi cael llawer gormod o ddylanwad dros y broses ac mai mater i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai deddfu ar yr iaith Gymraeg fod. Rydym hefyd yn anfodlon iawn mai dim ond cwmnïau a chyrff sy'n derbyn £400,000 o arian cyhoeddus fydd yn gorfod darparu gwasanaethau dwyieithog ac yn mynnu fod y trothwy yn cael ei ostwng."Dywedodd Menna Machreth ymhellach:"Y gwir ydyw nad ydym wedi symud ymlaen llawer. Bydd ein hawliau ieithyddol fel Cymry Cymraeg yn dal yn eilradd a hynny nid yn unig mewn perthynas â'r sector breifat. Mae'r hawl i siarad Cymraeg yn y gweithle yn dal yn amwys er enghraifft ac ni chrybwyllir yr hawl i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n syndod i ni fod llywodraeth sydd wedi mynnu fod cwmnïau yn cydnabod hawl gweithwyr i isafswm cyflog a chydnabod hefyd hawliau'r anabl wedi methu yn llwyr a derbyn fod gan bobl Cymru hawliau ieithyddol. Fydd yna ddim heddwch ieithyddol yng Nghymru os mai'r Gorchymyn Iaith hwn yw'r peth gorau sydd ar gael. Ni wyddom eto beth fydd canlyniad ein cyfarfod hwn gyda Peter Hain ond yr ydym yn rhagweld y bydd hi'n drafodaeth ddi-flewyn ar dafod."