Cyhoeddi'r Siarter Tai Celtaidd

Am y tro cyntaf, daeth mudiadau ymgyrchu iaith o’r gwledydd Celtaidd at ei gilydd er mwyn galw am weithredu cadarn i sicrhau dyfodol ffyniannus i’n cymunedau.

Heddiw mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gyhoeddi fod Siarter Tai Celtaidd yn cael ei ryddhau. Mae hwn yn ddatblygiad hanesyddol i fudiadau ymgyrchu iaith yng Nghernyw, yr Alban, Iwerddon ac Ynys Manaw ac yma yng Nghymru. Daw mewn ymateb i’r argyfwng tai sy’n gyffredin i’r ardaloedd lle siaredir ein hieithoedd. Argyfwng sy’n golygu fod llai a llai o dai ar gael sy o fewn cyrraedd pobl leol, sydd felly yn aml yn symud allan o’u hardaloedd. Yn anochel, felly, mae nifer siaradwyr ein hieithoedd yn disgyn.

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn trafod efo’r gwledydd eraill ers misoedd ac yn ystyried ei bod yn bwysig fod safiad ar y cyd yn digwydd. Polisïau economaidd a chynllunio ers cenedlaethau, effeithiau llymder, diffyg gweledigaeth sy’n rhoi arian o flaen pobl – dyma’r botes ddieflig sydd wedi cyfrannu at y broblem.
 
Dywedodd Bethan Ruth, Cadeirydd y Gymdeithas: 
 
“Mae’r Gymdeithas wedi pwysleisio pwysigrwydd sicrhau fod tai ar gael i bobl leol yn gyson. Tynnwyd sylw at y broblem tai haf ddegawdau yn ôl.  Bydd y Siarter Tai Celtaidd yn fodd i’n gwledydd rannu profiadau a dysgu sut i ddatrys problemau gyda’n gilydd.  Wrth gwrs, mae gwahaniaethau rhwng pob gwlad, a bydd y Gymdeithas yn manylu rhagor at faterion sy’n berthnasol i Gymru dros y misoedd nesaf.
 
“Hoffwn ddiolch i’n cyfeillion yn Mebyon Kernow, Misneach, Misneachd Alba ac Ynys Manaw am sefyll efo ni dros hawl siaradwyr ein hieithoedd i fyw yn eu cymunedau pan mae cymaint o heriau yn ein gwynebu yn gwneud hynny’n gynyddol anodd.”
 
Meddai Robat Idris, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy’r Gymdeithas:
 
“Mae Cofid -19 wedi dod a llawer o’r problemau sy’n deillio o’r sefyllfa dai presennol i’r amlwg. Gwelwyd y llif o bobl i’w ail gartrefi, ac Airbnb yn dal i hysbysebu tai ar osod yn ystod cyfnod yr haint. Ond arwyddion yw’r rhain – fel y caneri yn y pwll glo ers talwm. Mae Cymru yn cael ei gweld fel lle i ddianc iddo fel rhyw fath o chwaraele, nid rhywle ble mae cymunedau byw. Mae diffyg tai ar gyfer pobl leol yn bygwth tanseilio ein cymunedau Cymraeg yn yr ardaloedd lle mae’r iaith gryfaf.”
 
Mae’r Siarter yn galw am weithredu ar nifer o bwyntiau:
  • gosod cap ar y canran o ail gartrefi neu dai haf o fewn cymuned;  
  • datganoli grymoedd cynllunio, gan gynnwys gosod targedau tai, i’r lefel fwyaf lleol, a bod cynllunio ieithyddol yn orfodol;
  • newid y diffiniad o dai fforddiadwy i’r hyn sy’n fforddiadwy ar gyflogau lleol cyfartalog;
  • rheoleiddio defnydd tai sy’n cael ei ddefnyddio yn bennaf neu’n unig ar gyfer Airbnb, gan gynnwys diffinio defnyddio tai neu fflatiau yn eu cyfanrwydd fel ail gartrefi neu Airbnb;
  • rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobl ar gyflogau lleol;
  • cyflwyno Treth Cyngor Uwch o 100% ar ail gartrefi a thai a ddefnyddir ar gyfer Airbnb, gan gynnwys cau unrhyw fannau gwan yn y gyfraith sy’n caniatáu osgoi talu’r dreth honno;
  • codi treth newydd ar dai a ddefnyddir yn bennaf neu’n unig ar gyfer Airbnb
  • deddfwriaeth eiddo i reoli prisiau, blaenoriaethau tai i bobl leol a sicrhau bod defnydd o dai presennol cyn datblygu
  • cymhelliannau i adnewyddu a/neu adeiladu tai cynaliadwy o ran deunydd a dull adeiladu;
  • dychwelyd y stoc dai cymdeithasol yn ôl i ddwylo cyhoeddus
  • treth ar elw landlordiaid i fuddsoddi mewn dod â thai gwag ac ail gartrefi yn ôl i mewn i ddefnydd cymunedau a phobl leol.

Cred y Gymdeithas fod y Siarter Tai Celtaidd yn cynnig ymateb cadarnhaol i’r problemau sy’n gyffredin i’r gwledydd Celtaidd

Darllenwch y Siarter yn llawn yn fan hyn