Cyhuddo Cyngor Dinbych o "Israddio systematig o addysg Gymraeg"

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg Huw Lewis i ymyrryd i atal yr hyn a alwant yn "israddio systematig o addysg Gymraeg" gan Gyngor Sir Dinbych.

Yr wythnos hon, penderfynodd cabinet y Cyngor i israddio Ysgol Ardal newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Pentrecelyn (ar y cyd gyda Llanfair Dyffryn Clwyd) o fod yn ysgol gategori 1 (cyfrwng Cymraeg) i fod yn gategori 2 (dwy ffrwd Cymraeg a Saesneg). Ond daeth i'r amlwg fod y Cyngor wedi bod yn israddio addysg Gymraeg yn y sir ers blwyddyn bellach.

Yn gynharach eleni, dywedodd y Cyngor Sir wrth ysgolion pentrefol Cymraeg yn ardal Dinbych (Pantpastynog Prion, Nantglyn a Llanrhaeadr) fod y disgyblion i dderbyn eu haddysg uwchradd yn y dyfodol yn Ysgol Brynhyfryd Rhuthun yn hytrach nag Ysgol Uwchradd Gymraeg Llanelwy lle bu disgyblion y pentrefi hyn yn mynd ers hanner canrif.

Yn y neges at y Gweinidog, dywed Aled Powell Cadeirydd rhanbarth Cymdeithas yr Iaith yng Nghlwyd: "Mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol gategori 1 Gymraeg, ond mae Ysgol Brynhyfryd yn ysgol gategori 2B lle mae addysg Gymraeg yn ddewisol. Felly nid yn unig fod Cyngor Sir Dinbych yn symud disgyblion Pentrecelyn lawr un categori ieithyddol, ond maent hefyd yn mynnu fod disgyblion pentrefi ardal Dinbych yn symud lawr dau gategori o ran cyfrwng eu haddysg uwchradd. Dyma israddio systematig ar addysg gyfrwng Gymraeg yn y sir sy'n rheoli'r ardal gyntaf lle sefydlwyd Ysgol Uwchradd Gymraeg, sef Glan Clwyd. Mae hyn yn gwbl groes i strategaeth y llywodraeth o ran hybu addysg Gymraeg, ac yn gwbl groes i argymhellion adroddiad gan yr arbenigwr iaith Cefin Campbell a argymhellodd symud yr ysgolion ar hyd continwwm tuag at addysg Gymraeg. Mae Mr Powell yn terfynu'i neges at y Gweinidog trwy ddweud: "Os na fyddwch yn ymyrryd yn y fan hon, ni fydd unrhyw hygrededd yn eich honiad fod y llywodraeth hon yn dymuno hybu addysg Gymraeg."