Cyhuddo Gweinidog o danseilio Comisiynydd y Gymraeg drwy’r drws cefn

Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ‘geisio tanseilio annibyniaeth y Comisiynydd drwy’r drws cefn’ gan ‘lwgrwobrwyo'r Comisiynydd’ i newid ei strwythurau a’i gwaith, yn sgil cyhoeddi papur polisi newydd Gweinidog y Gymraeg.

Mewn papur a gyflwynwyd yn hwyr ar gyfer cyfarfod pwyllgor diwylliant y Senedd heddiw (dydd Mercher 13eg Chwefror), dywed Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan:

“Yr her rwy’n ei gosod i’r Comisiynydd felly yw i roi trefniadau llywodraethiant tryloyw a chynhwysol yn eu lle, megis Bwrdd Llywodraethu gyda chyfrifoldebau clir a phendant, fel cam rhagarweiniol hanfodol er mwyn paratoi’r corff ar gyfer cymryd cyfrifoldeb a bod yn atebol am weithredu rhaglenni o waith i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ... Os wyf yn hyderus bod y Comisiynydd wedi cwrdd â’r amodau hyn dros y flwyddyn nesaf, byddaf yn barod i ystyried trosglwyddo nifer o gyfrifoldebau, ynghyd â’r adnoddau sydd ynghlwm wrthynt, o Lywodraeth Cymru i law’r Comisiynydd.”  

Yn y Papur Gwyn ar Fil y Gymraeg sydd bellach wedi ei ollwng, cynigiwyd yr opsiwn o sefydlu Bwrdd dan y Comisiynydd a rhoi’r gwaith hybu i'r Comisiynydd. Ymddengys, yn ôl dadansoddiad y Llywodraeth o’r ymatebion i'r Papur Gwyn, mai dim ond 9 allan o 504 (neu 1.7%) o ymatebwyr i ymgynghoriad y Papur Gwyn a gefnogai’r opsiwn hwnnw.

Mewn llythyr brys at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant Bethan Sayed AC, dywed Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r papur yma’n drwch o fygythiadau a chymhellion i sicrhau bod y Comisiynydd yn ildio i ddymuniad y Llywodraeth i wanhau’r gyfundrefn reoleiddio ac felly hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg. Nid yw’n ddemocrataidd nac yn gyfansoddiadol iddynt wneud hyn.”

“Yn y bôn, mae cynigion y Llywodraeth ... yn gyfystyr â dim llai na defnyddio bygythiad ariannol i newid blaenoriaethau, gweithgareddau a llywodraethiant y Comisiynydd. Mae’r Llywodraeth yn ceisio llwgrwobrwyo’r Comisiynydd i wanhau ei hun. Credwn fod y polisi a amlinellir ym mhapur y Llywodraeth yn annemocrataidd ac yn tanseilio annibyniaeth y Comisiynydd. Yn ogystal, mae’n gosod cynsail peryglus i Gomisiynwyr eraill ynghyd â chyrff rheoleiddio eraill. Mae’n rhaid cofio bod y Comisiynydd yn rheoleiddio’r Llywodraeth, ac mae mynnu newid strwythur llywodraethiant y Comisiynydd er mwyn newid y pwyslais oddi ar y rheoleiddio hwnnw yn anghyfansoddiadol. Nid lle'r Llywodraeth yw ceisio defnyddio cyllideb i newid strwythur corff rheoleiddio annibynnol na’i weithgareddau. Mater i'r ddeddfwrfa ydy'r strwythurau hynny.”

“Fel y gwyddoch, roedd newid strwythur y Comisiynydd yn destun ymgynghoriad gan y Llywodraeth a’ch pwyllgor. Gwrthodwyd opsiynau a fyddai’n cyfuno hybu a rheoleiddio’r Gymraeg o fewn un corff; fodd bynnag, dyna mae papur tystiolaeth y Llywodraeth yn ceisio’i wneud.   

Ychwanegodd:

“Credwn, yn lle’r cynlluniau yma, bod y cyhoedd am weld ehangu a chryfhau eu hawliau i fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg. Credwn fod angen ... rhagor o gyllid ar gyfer hybu’r Gymraeg - dylid cynyddu’r gwariant ar brosiectau penodol i hybu’r iaith i werth 1% o gyllideb y Llywodraeth, sef y ffigwr cyfatebol yng Ngwlad y Basg.”