Cyhuddo Pwyllgor Senedd o “fethu plant Cymru”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu un o bwyllgorau’r Senedd am beidio mabwysiadu gwelliannau fyddai’n cryfhau cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer addysg Gymraeg.

Mewn cyfarfod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd heddiw (dydd Iau, 13 Chwefror) i drafod Bil y Gymraeg ac Addysg, gwrthododd y Pwyllgor nifer o welliannau a fyddai wedi cryfhau’r Bil. Roedd y gwelliannau a wrthodwyd yn cynnwys gosod targedau statudol ar gyfer cynyddu'r ganran o blant mewn addysg Gymraeg, cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sy’n dysgu drwy’r Saesneg ar hyn o bryd, a sicrhau cyllid digonol i uwchraddio sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg.

Rydyn ni eisoes wedi beirniadu’r Bil am beidio mynd i’r afael â’r “anghyfiawnder” presennol lle mae 80% o’n pobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg.

Galwn ar bobol o bob rhan o’r wlad i ddod i rali “Sefyll gyda'r 80% – Addysg Gymraeg i Bawb ddydd Sadwrn 15 Chwefror am ddau o’r gloch y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Wrth ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Plant yn y Senedd, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'r system addysg yn amddifadu 80% o'n plant o'r hawl i allu defnyddio'r Gymraeg. Dydy Bil y Gymraeg ac Addysg fel y mae ddim yn mynd i newid hynny – Bil sy’n cadarnhau’r status quo yw hwn yn hytrach na’r Bil gweddnewidiol sydd ei angen. Ar ben hynny, mae gwelliannau fyddai wedi gallu cryfhau rhywfaint ar y Bil wedi eu gwrthod heddiw.
"Mae Aelodau’r Senedd yn hoff o ddweud bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond mae eu gweithredoedd yn awgrymu’r gwrthwyneb. Rydyn ni’n gwybod bod pobl Cymru, yn enwedig ein pobl ifanc, am weld pawb yn cael dod yn siaradwyr Cymraeg drwy’r gyfundrefn addysg, felly rydyn ni’n galw ar bawb i ddod i rali Sefyll gyda'r 80% – Addysg Gymraeg i Bawb yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yma am ddau o’r gloch."

Mae manylion y rali i'w gweld trwy bwyso yma