Cyhuddo Prydain o dorri cyfraith Ewrop dros S4C

s4c-toriadau.jpg

Mae ymgyrchwyr iaith yn ystyried her gyfreithiol dros S4C yn dilyn cadarnhad gan swyddogion uchaf Ewrop heddiw y byddai dirwyiad mewn lefel gwasanaethau teledu Gymraeg yn groes i gyfraith ryngwladol.

Mewn cyfarfod ag uwch swyddogion Ewrop cafwyd cadarnhad bod dyletswydd cyfreithiol ar Lywodraeth Prydan i ddarparu sianel deledu Gymraeg.Wrth drafod â phennaeth secretariat Siarter Ewrop dros ieithoedd lleiafrifol, Alexey Kozhemyakov, cadarnhawyd hefyd fod y siarter yn gwahardd gwledydd rhag 'lefel is o ymgymeriad', sef gostyngiad i'r gwasanaeth i'r bobl sydd yn ei dderbyn.

Mae S4C yn wynebu cwtogiad o nawdeg pedwar y cant i'w chyllideb dros y pedair mlynedd nesaf.Fe ddywedodd Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y byddai'r mudiad yn ystyried unrhyw gamau cyfreithiol y gallan nhw eu cymryd yn dilyn y cyfarfod: "Mae'r hyn ddywedodd y swyddogion yn arwyddocaol iawn i'n hymgyrch dros ddarlledu Cymraeg. Mae'n glir bod cynlluniau'r Llywodraeth a'r BBC yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol. Mae'n anorfod bod safon y gwasanaeth yn mynd i ddioddef gyda'r toriadau enfawr maen nhw'n cynllunio. Felly, fe fyddwn ni'n ystyried unrhyw opsiynau cyfreithiol sydd gyda ni fel bod modd atal y Llywodraeth rhag torri ei hymrwymiadau."

Cadarnhaodd swyddogion bod y siarter iaith Ewropeaidd sydd yn diogelu gwasanaethau radio a theledu yn orfodaeth ryngwladol. Pwysleision nhw fod Llywodraeth Prydain wedi cytuno'n rhyddi'r siarter sydd yn ei gorfodi'n gyfreithiol.

Fe ddywedodd Jill Evans ASE:"Mae'r ymosodiad ar S4C yn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg ei hun. Fel un o ieithoedd cydnabyddedig yr UE, mae i hyn oblygiadau ymhell y tu hwnt i Gymru. Gwelir S4C fel patrwm i lawer o wledydd eraill, ac y mae'r Siarter Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrifol yn mynnu darpariaeth deledu a radio yn ieithoedd perthnasol pob gwlad."

"Rwyf wedi gwrthod talu fy nhrwydded deledu fel protest yn erbyn ymosodiad llywodraeth San Steffan ar S4C. Carwn weld y cyfrifoldeb dros ddarlledu yn cael ei ddatganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan nad yw, yn amlwg, yn derbyn y parch dyledus gan lywodraeth San Steffan. Dylai ieithoedd lleiafrifol gael cydraddoldeb gydag ieithoedd Ewropeaidd eraill ym maes darlledu, sy'n golygu cyllid digonol a dim ymyrraeth gan wleidyddion."

Ychwanegodd Menna Machreth:"Mae degau o filoedd o bobl wedi gwrthwynebu'r cynlluniau hyn gan gynnwys Archesgob Cymru, arweinwyr y pleidiau yng Nghymru, a degau o fudiadau. Mae yna ddyletswydd arnon ni fel cymdeithas sifil i ystyried pob opsiwn er mwyn atal cynlluniau sydd yn groes i hawliau dynol pobl Cymru. Mae'n amser i'n gwleidyddion dechrau gwrando."

S4C - Llywodraeth wedi 'torri cyfraith Ewrop' - Golwg360 - 08/06/11

S4C: Her gyfreithiol? - BBC Cymru - 08/06/11

S4C campaigners continue lobbying of European Union 0 BBC Wales - 08/06/11

S4C campaigners take fight to Europe over budget cuts - Western mail - 07/06/11