Cyllidwch ein Cymunedau: Her i Lywodraeth Cymru

deddf_eiddo.gifEr mwyn sicrhau dyfodol cynaladwy iín cymunedau, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau cynydd mawr yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu ac hefyd sefydluír ëHawl i Rentuí erbyn cyllideb nesaf y Cynulliad ym mis Tachwedd. Dyna fydd her Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth iíw thaith gerdded 200 milltir trwy gymunedau Cymru ddod i ben am 2pm yfory tu allan i bencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Yno byddant yn cyflwyno bocs coch, sydd yn cynnwys anfonebau yn gofyn am fwy o arian ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu aír darpariaeth o dai ar rent.Dros y bythefnos diwethaf, mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi cerdded bob cam o Langefni i Gaerdydd, gan ymweld a nifer o gymunedau gwahanol. Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng tai sydd yn wynebu cymunedau ar draws Cymru ac i bwysleisioír camau hynny y dylai Llywodraeth Cymru eu cymeryd i leddfuír sefyllfa.Yn ystod y daith gwahoddwyd pobl i arwyddoír Datganiad dros ddyfodol cymunedau Cymru. Dyma ddatganiad o egwyddorion a ddylai fod yn sail i bolisiau cyfrifol ym maes tai. Derbyniwyd llawer iawn o gefnogaeth iír datganiad hwn, gyda rhai canoedd o bobl yn ei arwyddo, gan gynwys Aelodau oír Cynulliad, Aelodau Seneddol ac hefyd Cynghorwyr Sir. Yn ogystal, maeír datganiad wedi derbyn cefnogaeth dros 100 o Gynghorau Cymuned.Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac un oír rhai sydd wedi cerdded bob cam o Langefni:"Bellach mae yna gytundeb cyffredinol ynglyn a bodolaeth yr argyfwng tai, ynghyd aír ffaith ei fod yn cyfrannu at danseilio rhagolygon yr iaith Gymraeg. Ymhellach, o ystyried y gefnogaeth a gafodd aelodau Cymdeithas yr Iaith ñ gan bobl o bob rhan o Gymru ñ yn ystod y daith yma, does dim amheuaeth fod yna ddisgwyl i Lywodraeth cymru i gymryd camau pendant i leddfuír sefyllfa."ìMae yna rai camau penodol y dylid eu cymryd rhwng nawr a chyllideb nesaf y Cynulliad . Dylid sicrhau cynnydd yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth prynu. Yn ogystal dylid darparu digon o arian ar gyfer sefydluír ëHawl i rentuí, Byddai gweithredu yn y meysydd hyn yn gam cadarnhaol tuag at gyllido dyfodol iín cymunedau."Ychwanegodd Huw Lewis:ìEr mwyn pwyso ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn y meysydd hyn, galwaf ar bobl i ymuno gyda ni yn y rali genedlaethol ñ Dyfodol iín Cymunedau ñ a fydd yn cael ei gynnal yng nghaerdydd ar Dachwedd 15. bryd hynny bydd cyfle arall i bobl Cymru i alw ar y Llywodraeth i weithredu er lles ein cymunedau.îBydd ymgyrchuír misoedd diwethaf ym maes tai a chynllunio yn cyrraedd uchafbwynt gydaír rali fawr ñ Dyfodol iín Cymunedau ñ a fydd yn cael ei gynnal yn Neuadd Undeb y Myfyrwyr, Caerdydd, ar ddydd Sadwrn Tachwedd 15, 2003. Ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards, Alun ffred Jones AC a Leanne Wood AC.Stori BBC Cymru'r Byd 30/08/03Stori BBC Cymru'r Byd 22/08/03Stori BBC Cymru'r Byd 19/08/03Stori BBC Cymru'r Byd 16/08/03