Cymdeithas Peldroed Cymru - Dal i weithredu'r Welsh-Not

FAWMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu'n hallt Ysgrifennydd Cyffredinol yr FAW, David Collins a Chyngor yr FAW oherwydd eu polisi gwrth-Gymraeg, Saesneg yn unig, enghraifft arall o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd.Atebodd John Pritchard, Ysgrifenydd Cynghrair Caernarfon a'r Cylch, lythyr yn ddiweddar oddiwrth yr FAW, yn Gymraeg, ac er syndod a siom iddo dderbyniodd yr ateb canlynol:"I can infom you that the Football Assocciation of Wales conducts its business in English... it will remain the policy of the FAW that all communications are conducted in English."

Gwrthodwyd yr hawl i John Pritchard hefyd i siarad Cymraeg mewn dau wrandawiad gwahanol gan yr FAW, a gwrthodasant dalu am offer cyfieithu gan orfodi John Pritchard i siarad yn Saesneg. Meddai John Pritchard:"Yn ystod yr amser hwn, gofynais sawl gwaith i'r FAW, sy'n cynrychioli Pel Droed drwy Gymru benbaladr, i gyfathrebu yn Gymraeg. Gwrthodwyd fy nghais fwy nag unwaith; gwnaethpwyd y penderfyniad i wrthod, yn ôl yr ymatebion, gan yr ysgrifenydd cyffredinol, sydd, er fod ganddo deitl swydd sy'n ymddangos yn bwysig, yn dal yn gyflogedig gan y Gymdeithas Bel Droed, ac mae'n amheus gennyf a oes ganddo'r pwer i reoli ar faterion mor bwysig."Cred John Pritchard yn gryf ei fod wedi ei ragfarnu yn ei erbyn gan yr FAW oherwydd gwrthodwyd iddo'r hawl i gyfathrebu mewn unrhyw ffordd gyda'r FAW yn ei iaith ei hun yn ei wlad ei hun.Gofynodd am sicrwydd oddiwrth yr FAW ei bod yn barod i drafod mabwysiadu polisi lawn ddwy-ieithog ond ni dderbyniodd ateb wrth yr FAW. Y mae felly wedi danfon cwyn at Adran Cyfreithiol FIFA. Cred fod yr FAW wedi torri statudau 3 FIFA sy'n datgan:"Mae rhagfarn o unrhyw fath yn erbyn gwlad, person neu grwpiau o bobl oherwydd eu tarddiad ethnig, rhyw, iaith, crefydd, gwleidyddiaeth neu unrhyw reswm arall wedi'i wahardd yn llwyr ac yn agored i gosb o ohirio aelodaeth neu ddi-arddel."Yn ogystal a statudau 8.2 sy'n datgan:"Mae'n gyfrifoleb ar y Cymdeithasau unigol i gyfieithu i iaith ei gwlad."Mae John Pritchard wedi cael cefnogaeth gan Gymdeithas yr Iaith ac hefyd gan Hywel Williams AS, a'r Aelod Cynulliad lleol Alun Ffred Jones a fydd yn ysgrifennu at FIFA ar ei ran. Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd ymgyrch Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r math hyn o sefyllfa yn enghraifft perffaith o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Deddf a fyddai'n gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol ac yn briod iaith yng Nghymru. Deddf a fyddai'n sicrhau fod yna gomisiynydd mewn lle i rheoleiddio y math hyn o sefyllfa. Deddf a fyddai'n mynd i'r afael a sicrhau cyfres o hawliau i bawb o bobl Cymru."Derbyniodd Cymdeithas yr Iaith hefyd nifer o gwynion oddi wrth ei haelodau ynglyn â diffyg polisi dwyieithog yr FAW a'u gwefan uniaith Saesneg. Cefnogwn John Pritchard yn llwyr, a byddwn yn cysylltu â'n haelodau gan eu hannog i gwyno wrth yr FAW a FIFA ar y mater hwn.Dyma'r Llythr a ddanfonwyd at David Collins gan Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith (pdf) 36kbEbostiwch y canlynol i wneud eich cwyn:FAW: info@faw.org.ukFIFA: contact@fifa.orgNeu ysgrifenwch at: FAW, 11 / 12 Cwrt Neifion, Ffordd Blaen y Gâd, Caerdydd, CF24 5PJPêl-droed: Ffrae iaith - BBC Cymru'r Byd, 4 Ebrill 2006FAW must play fair on language (Golygyddol) - Daily Post, 4 Ebrill 2006We only speak English at FAW (Erthygl) - Daily Post, 4 Ebrill 2006