Cymdeithas yn 50, Gruff Rhys i berfformio

Cerddor adnabyddus a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys, yw'r artist cyntaf sydd wedi cadarnhau y bydd yn chwarae yng ngwyl arbennig, '50', i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher, Awst 3) mewn lansiad o'r cynlluniau i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn bumdeg ar faes yr Eisteddfod.Cynhelir yr wyl dros ddwy noson ym Mis Gorffennaf (13 a 14 o Orffennaf 2012) ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid y flwyddyn nesaf. Bydd gwefan y digwyddiad - hannercant.com - yn datgelu rhagor o'r pumdeg o artistiaid a fydd yn cymryd rhan yn yr wyl arbennig.Meddai Owain Schiavone, un o drefnwyr 50:"Mae Gruff Rhys yn artist sydd wedi bod yn gyson yn ei gefnogaeth i Gymdeithas yr Iaith dros y blynyddoedd ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi cadarnhau y bydd yn medru chwarae. Ef, heb os, yw un o artistiaid Cymraeg amlycaf a mwyaf poblogaidd y degawd diwethaf."'"Wrth gwrs, er yn bwysig iawn, dim ond y cyntaf mewn rhestr hir yw'r cyhoeddiad hwn. Gan fod '50' yn cael ei drefnu i nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant, mae'n fwriad, dros y ddwy noson, i gynnig llwyfan i bumdeg o artistiaid Cymraeg blaenllaw. Byddwn yn cadarnhau enwau'r artistiaid eraill rhwng nawr a'r penwythnos mawr, gydag enw un artist newydd yn cael ei gyhoeddi bob wythnos."Lansiad 50.jpgYchwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle arbennig i bobl o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, i ddathlu hanes ein hymgyrchu dros yr iaith Gymraeg. Rydyn ni yn y Gymdeithas yn fudiad o bobl sydd yn dibynnu ar weithredoedd a brwdfrydedd unigolion a chymunedau dros y Gymraeg. Dyma ein cyfle i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymroddiad ac hefyd ysbrydoli cenhedlaeth newydd a fydd yn gallu symud iaith unigryw Cymru ymlaen."Yn ogystal â chyhoeddi manylion pellach yngl?n â threfniadau '50', cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith heddiw y bydd cyfres o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal dros y flwyddyn nesaf i nodi pen-blwydd y mudiad yn hanner cant ac i gydnabod pum degawd o ymgyrchu brwd o blaid y Gymraeg.Mae'r dathlu yn cychwyn gyda gig arbennig yn yr Orsaf Ganolog heno, "Trên y chwyldro: trwy'r degawdau" lle bydd Mici Plwm yn cyflwyno 50 mlynedd o ganu roc a brwydro dros y Gymraeg mewn cân a ffilm gyda Maffia Mr Huws, Heather Jones, Gai Toms a'r Band, Jen Jeniro a Ian Rush. Noson i gychwyn am 8pm, gyda thocynnau ar werth wrth y drws am £9.Fe fydd y mudiad hefyd yn ceisio codi pumdeg mil o bunnoedd dros y flwyddyn nesaf er mwyn cynnal ymgyrchoedd presennol y mudiad megis yr ymgyrch i achub darlledu Cymraeg.Gwyl '50': 13-14 Gorffennaf 2012, Pafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid, Ceredigion http://hannercant.com