Cymdeithas yn cyflwyno Bil Cynllunio i Carl Sargeant

Heddiw (14eg Mawrth 2014) mae aelodau o'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno copi o’u “Bil Cynllunio ac Eiddo er budd ein Cymunedau” i'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant yn ei swyddfa etholaeth yng Nghei Cona.

Gosododd aelodau'r Gymdeithas bosteri gyda lluniau o dai ar swyddfa'r Gweinidog fel gweithred symbolaidd yn erbyn polisïau’r Llywodraeth o foddi Cymru gyda miloedd o dai, heb gymryd unrhyw ystyriaeth o anghenion cymunedau'r wlad.

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae polisïau Llywodraeth Cymru ym maes cynllunio'n dangos bod y drefn yn hollol anghywir i anghenion unigryw ein gwlad. Yr un ydi'r  problemau sy’n milwrio yn erbyn ein cymunedau, boed hynny yn Wrecsam neu Pwllheli sef diffyg dealltwriaeth y Llywodraeth ac Awdurdodau Lleol i ddeall bod rhaid gosod cynaladwyedd cymunedol yn uwch nag ariangarwch cwmnïau datblygu o du allan.”

“Mae ein cynigion ni yn ceisio rhoi buddiannau cymunedau’n gyntaf er mwyn taclo tlodi yn ogystal â phroblemau sy’n wynebu’r iaith a’r amgylchedd. Rydyn ni wedi galw am chwyldroi’r system gynllunio fel rhan o’r chwe newid polisi sydd ei angen er mwyn delio ag argyfwng y Cyfrifiad.”

“Dyma'r amser i Lywodraeth Cymru wrando ac i weithredu, dro ar ôl tro, enghraifft ar ôl enghraifft fe welwn nad ydi trefn gynllunio sydd wedi ei selio ar drachwantau unigolyddol Prydeinig yn cyd-fynd a sosialaeth gynhenid Cymru. Os ydi Carl Sargeant o ddifri am weld Cymru decach, lle mae cymunedau'n ffynnu, mae'n rhaid iddo dderbyn ein hargymhellion.”

Ychwanegodd Aled Powell, Cadeirydd Rhanbarth Clwyd Cymdeithas yr Iaith:

“O Fodelwyddan i Fethesda, o Benrhos i Benybanc mae cymunedau Cymru wedi cael digon o'r drefn sy’n gweld Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn boddi ardaloedd gyda miloedd o dai, heb gymryd unrhyw ystyriaeth gynhwysfawr o anghenion y cymunedau hynny. Dyna pam ein bod ni heddiw wedi gosod degau o dai ein hunain ar draws swyddfa etholaeth Carl Sargeant.”

Ym mis Awst y llynedd, ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at Carwyn Jones gan ofyn iddo wneud datganiad o fwriad i newid chwe polisi sylfaenol: addysg Gymraeg i bawb; tegwch ariannol i'r Gymraeg; gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg; safonau iaith i greu hawliau clir; trefn cynllunio er budd ein Cymunedau; a’r Gymraeg yn greiddiol i ddatblygu cynaliadwy.