Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cyflwyno "Galwad Sir Gâr" i Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Yr un prynhawn, ag y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio eu Strategaeth newydd i Hybu'r Gymraeg yn y sir - a luniwyd gan y Fforwm Iaith Sirol y mae Cymdeithas yr Iaith yn aelod ohono.
Ar ran rhanbarth Caerfyrddin y Gymdeithas, esboniodd Ffred Ffransis:
"Mae Cymdeithas yr Iaith yn gefnogol iawn i strategaeth newydd y Cyngor Sir sydd â'r nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir, ond mae llawer o feysydd pwysig o ran cyflawni'r nod hwn sydd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, nid y Cyngor Sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn crynhoi'r rhain yn "Galwad Sir Gâr" - sef galwad ar Lywodraeth Cymru i chwarae ei rhan yn y nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir. Gall pobl yn Sir Gaerfyrddin weithio'n galed i sicrhau fod addysg yn Gymraeg, a'r Gymraeg yn gynyddol ddod yn iaith y gweithle, ond bydd hynny'n cael ei golli os bydd mwyafrif ein pobl ifainc wedyn yn gorfod gadael y sir oherwydd anhawster cael cartrefi i'w prynu na rhentu na gwaith addas. Cyfrifoldeb y Llywodraeth fydd rheoli'r farchnad tai trwy Ddeddf Eiddo neu wneud cynnal yr iaith a chymunedau Cymraeg yn un o amcanion datblygu economaidd."
Yn dilyn y cyfarfod ychwanegodd Ffred Ffransis
"Fe gafwyd ymateb cadarnhaol iawn gan y Gweinidog a'r awgrym y byddai modd sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg. Er bod Gweinidog yn bersonol o blaid a yr hyn a elwir gan y Gymdeithas yn Ddeddf Eiddo (i reoleiddio'r farchnad tai), nid oedd yn sicr a ydy'r grymoedd deddfu hanfodol gan y Senedd. Disgwyliwn glywed mwy am hyn wythnos nesa pan gyhoeddir papur gwyrdd ar dai."
Mae rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith yn galw am:
- Sicrhau Addysg Gymraeg i Bawb
- Deddf Eiddo Gyflawn
- Cynllunio Gwaith i Gynnal yr Iaith
- Cynnal Cymunedau Gwledig a Bywoliaeth mewn Amaeth
- Sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg
- Gwneud y Gymraeg yn Iaith Gwasanaethau Cyhoeddus
- Gwneud y Gymraeg yn Iaith Gwaith