Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i gwmni Arad Consulting gael ei orfodi i ad-dalu eu ffi am gynhyrchu adroddiad ar ddatblgyu addysg uwch Gymraeg.
Yn ei adroddiad y mae'r cwmni preifat yn argymell 'mwy o gydweithio'� rhwng colegau presennol i ddatblgyu addysg uwch Gymraeg yn hytrach na sefydlu Coleg aml-safle Cymraeg.Mewn ymateb, dywed Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar addysg):"Dyma amrywiad ar yr un hen fformiwla methedig o geisio ychydig o gynnydd mewn cyrsiau Cymraeg yn hytrach na sefydlu trefn newydd o goleg aml-safle Cymraeg.""Heb gefnogaeth sefydliadol o' fath, ni welwn byth yr hawl i astudio ystod cyflawn o addysg uwch trwy'r Gymraeg. Nid ymddengys fod y cwmni wedi rhoi ystyriaeth i'n galwad ni am goleg aml-safle Cymraeg a fuasai'n gweithredu yn ein cymunedau ac yn ein gweithleoedd yn ogystal ag ar feysydd colegol.""Rhaid amau nad oedd y cwmni am ddod i gasgliad nad oedd wrth fodd Llywodraeth y Cynulliad rhag ofn peidio a derbyn cytundebau o'r fath yn y dyfodol. Dylai'r cwmni ad-dalu'r ffi a dderbyniodd am baratoi'r adroddiad, a dylid terfynu'r drefn yn y dyfodol o wastraffu arian cyhoeddus ar adroddiadau ymgynghorwyr preifat o'r fath."