Cymdeithas yn galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg ymyrryd

Wythnos i fewn i gyfnod ymgynghorol cynllun datblygu lleol Gwynedd a Môn, mae
ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg ymyrryd yn y broses gan
fod yr asesiad iaith a gyhoeddwyd gan y siroedd yn ‘annibynadwy’.

Credant nad yw Cyngor Gwynedd a Môn yn gallu profi bod adeiladu 7,902 ‘yn
annhebygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg’.

Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn:

‘Nid yw Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn wedi gallu cyflwyno tystiolaeth gadarn i
brofi beth fydd effaith y Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg yn y ddwy sir.

Y gwir yw, does dim syniad ganddyn nhw. Mae’r Gymraeg mewn sefyllfa mor fregus
fel bod rhaid canfod tystiolaeth gadarn i weld beth fydd yr effaith ar iaith y
gymuned cyn medru penderfynu faint o dai i’w hadeiladu ym mhob cymuned.

‘Yn ein barn ni mae’r niferoedd o dai sy’n cael eu cynnig yn y cymunedau yn
anghynaliadwy o safbwynt y Gymraeg. Mae sôn am liniaru effaith ond bydd y difrod
mawr wedi ei wneud a phryderwn y bydd gostyngiad yn y ganran o siaradwyr mewn
nifer o gymunedau erbyn Cyfrifiad 2021.’

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn iddi
ymateb i’r Cynllun Adnau a’i effaith ar y Gymraeg mewn cymunedau yng Ngwynedd a
Môn.

Meddai Menna Machreth ymhellach:

‘Yn sicr mae angen tai fforddadwy yn ein cymunedau, ond nid oes asesiad o’r
angen lleol wedi ei wneud. Yn ystod yr ymgynghoriad, maen nhw’n disgwyl i
gymunedau rhoi tystiolaeth i brofi sut bydd adeiladu tai yn cael effaith ar eu
cymuned, ond dydyn nhw ddim yn gwybod eu hunain.’