Cymdeithas yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor yn y Cynulliad

SeneddAm 9.30 dydd Mawrth Mawrth 17 fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg. Rhoddir y dystiolaeth ar ran y Gymdeithas gan Menna Machreth (Cadeirydd), Sioned Haf (Swyddog Ymgyrchoedd) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith). Yn eu tystiolaeth fe fydd y Gymdeithas yn pwysleisio'r angen fod yn rhaid i'r Gymraeg gael statws swyddogol yng Nghymru. Fe fydd hefyd yn pwysleisio'r angen am hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac yn galw am Gomisiynydd Iaith.Tystiolaeth Cymdeithas yr Iaith i Bwyllgor y Cynulliad (PDF)

Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Fe fyddwn fel dirprwyaeth yn pwysleisio yn gryf iawn fod y pwerau deddfu dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo'n gyfan gwbwl o Lundain i Gaerdydd. Fe fyddwn i hefyd yn mynnu fod y Ddeddf yn cwmpasu pob person neu gorff sy'n darparu nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau i'r cyhoedd yng Nghymru. Byddwn hefyd yn mynnu fod pwyslais cwbwl glir ar yr hawl i ddefnyddio a siarad y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'r hawl i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn ganolog."Dywedodd Sioned Haf Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas:"Fe fydd ein tystiolaeth yn profi nid yn unig fod y Gymraeg yn cael ei thrin yn israddol ar hyn o bryd, ond hefyd nad oes unrhyw fwriad gan gwmnïau mawrion i'w heglu hi i ffwrdd dros y ffin pe bai galw arnynt i weithredu polisïau dwyieithog dan Ddeddf Iaith newydd"