Cymdeithas yn targedu Tesco Cyffordd Llandudno

Ble mae'r Gymraeg?Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bu aelodau o'r Gymdeithas yn picedu tu allan i Tesco Cyffordd Llandudno heddiw. Dosbarthwyd taflenni yn tanlinellu nad yw tocenistiaeth parhaol Tesco tuag at y Gymraeg yn ddigon da.

Dywed Bethan Williams, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Fe fyddwn yn targedi y cwmnïau hynny sydd yn cymryd arian pobl Cymru, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn galw ar bobl Cymru i lunio llythyr o gŵyn i'w ddanfon at y cwmnïau yma ynglŷn â'u polisi iaith ddiffygiol.""Rydym yn galw ar y cwmnïau yma i sicrhau bod pob arwydd parhaol, deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro, cyhoeddiadau system sain a phecynnu cynnyrch ei hunain yn ddwyieithog. Galwn hefyd arnynt i ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny'n bosibl a sefydlu cynlluniau hyfforddi staff i'w galluogi i weithio a chynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."Dywed Osian Jones , Swyddog Maes Gogledd Cymru Cymdeithas yr Iaith."Mae hi wedi bod yn ddau fis o ymgyrchu chwyrn yn erbyn difaterwch Tesco, dyma un o gwmniau mwyaf ynysoedd Prydain yn dangos nemor ddim parch tuag at y Gymraeg. Dwi'n annog holl aelodau'r Gymdeithas i barhau â'r ymgyrch, i ddangos nad yw'r ddarpariaeth bresennol yn ddigon da o bell ffordd. Mi fydd y Gymdeithas yn troi at gwymniau eraill yn ystod y misoedd nesaf, ond nid yw'r ymgyrch hon ar ben."Pwyswch yma i weld rhestr o dargedau'r Gymdeithas yn ystod y misoedd nesaf.