Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon enwau 59 o gwmniau preifat ddylai fabwysiadu polisi dwyieithog cyflawn at Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae hyn yn dilyn penodi Ifan Evans fel swyddog cyflogedig ar y Bwrdd Iaith gyda chyfrifoldeb arbennig dros y sector breifat.
Dywedodd Dafydd Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr ydym wedi dewis 59 cwmni gan fod Alun Pugh y Gweinidog Diwylliant heddiw wedi cyhoeddi ei fod yn ymgynghori gyda'r nifer hwn o sefydliadau ac yn ceisio eu tynnu i mewn tan Ddeddf Iaith 1993.""Tra bod ambell enw arwyddocaol ar ei restr ef – fel y Swyddfa Bost – fe gredwn fod ein rhestr ni yn fwy arwyddocaol ac yn fwy perthnasol i fywydau trwch pobl Cymru. Y tristwch mawr wrth gwrs yw fod gennym restr llawer hwy na hyn y gallem ei drosglwyddo i Mr Evans a Mr Pugh.""Ond credwn fod gan recriwt newydd y Bwrdd Iaith ddigon o waith ar ei ddwylo. Datganwn unwaith eto, fod Deddf Iaith gryfach ac effeithiolach yn gwbl hanfodol os ydym am sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg yn y sector breifat."1. Abbey2. Adams3. Aldi4. All Sports5. Argos6. Arriva7. Asda8. B&Q9. Barclays10. BHS11. Birthdays12. Boots13. BT14. Burtons15. Clintons Cards16. Co-op17. Currys18. Debenhams19. Dorothy Perkins20. H&M21. Halfords22. HMV23. HSBC24. Iceland25. JJB Sports26. KFC27. Lidl28. Lloyds TSB29. Marks & Spencer30. Matalan31. McDonalds32. MFI33. Microsoft34. Miss Selfridge35. Morrisons36. NatWest37. New Look38. Nwy Prydain39. O240. Orange41. PC World42. Peacocks43. River Island44. Sainsburys45. Sky46. Somerfield47. Spar48. Specsavers49. Starbucks50. Subway51. Swalec52. Tesco53. The Body Shop54. TK Maxx55. Topman / Topshop56. Virgin Megastores57. Vodafone58. WH Smith59. WoolworthsYr iaith yn y sector preifat: Her - BBC Cymru, 24/03/07'No nepotism' in Language Board's naming of director - Western Mail, 22/03/07