Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn rhoi grym i awdurdodau lleol godi treth ar dwristiaid, gan alw am gynlluniau “cynhwysfawr a rhagweithiol” i gyd-fynd ag ef er mwyn sicrhau diwydiant twristiaeth cynaliadwy.
Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, ar ran y mudiad:
“Rydym ni’n croesawu’r cynigion i gyflwyno treth twristiaeth a gyhoeddwyd heddiw fel rhan o’r ateb i liniaru effeithiau niweidiol twristiaeth ar ein cymunedau.
“Mae twristiaeth ar ei ffurf bresennol yn ddiwydiant echdynnol, ansicr a thymhorol, sy’n peri niwed i’n cymunedau a’n hiaith. Mae’r cymunedau hyn - yn aml rhai o’r tlotaf yn Ewrop - yn profi heriau sylfaenol yn sgil twristiaeth anghynaladwy, megis anfforddiadwyedd tai, diffyg mynediad at wasanaethau cyhoeddus a swyddi byrdymor gyda chyflogau isel.
“Dylai’r arian a gesglir gan y dreth newydd yma gael ei glustnodi gan awdurdodau lleol ar gyfer gwyrdroi’r niwed yma a magu gwydnwch ein cymunedau, er enghraifft trwy fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ar gyfer pobl leol neu gynnal a chadw adnoddau cymunedol fel rheiny ddatblygwyd fel rhan o Fenter Bro Ffestiniog fyddai o fudd i’r diwydiant a’r gymuned gyfan.
“Galwn hefyd fod y dreth yn dod law yn llaw â chynlluniau cynhwysfawr a rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i greu diwydiant twristiaeth sy’n gynaliadwy ac sydd o fudd i gymunedau ac economïau lleol, fel rydym wedi’i weld ar draws Ewrop.”